Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i'n haelod bwrdd annibynnol mwyaf newydd

Hoffem groesawu Jonathan Morgan yn swyddogol fel aelod annibynnol diweddaraf bwrdd AaGIC.

Dywedodd ein Cadeirydd, Dr Chris Jones, “Rydym yn croesawu Jonathan yn gynnes iawn fel Aelod annibynnol. Mae Jonathan yn dwyn ystod eang o brofiadau a dealltwriaeth o wasanaethau cyhoeddus a fydd o fudd mawr i AaGIC.”

Jonathan oedd un o’r Aelodau Cynulliad cyntaf a etholwyd ym 1999 a gwasanaethodd am ddeuddeng mlynedd fel Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru (1999 – 2007) a Gogledd Caerdydd (2007 – 2011). Ef hefyd oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chadeiriai’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno diwygiadau i ddeddfwriaeth iechyd meddwl yng Nghymru a arweiniodd at basio Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Mae ei benodiadau cyhoeddus eraill yn cynnwys bod yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a, hyd yn ddiweddar, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Ar ôl gadael gwleidyddiaeth rheng flaen, sefydlodd Jonathan Insight Wales Consulting Limited ac ef yw’r Rheolwr Ymgynghorol a’r Cyfarwyddwr ar hyn o bryd. Mae Insight Wales yn cefnogi sefydliadau i ymgysylltu â phrosesau deddfwriaethol a pholisi’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae Jonathan yn gweithio ar brosiect ymgynghoriaeth gyda Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru i archwilio elfennau allweddol strategaeth dargadw nyrsys, a hefyd gydag ystod o gwmnïau fferyllol byd-eang yn cynghori ynghylch polisïau iechyd, negeseuo ac ymgysylltu gwleidyddol.

Mae Jonathan hefyd yn Aelod Cyswllt o Practice Solutions Limited sy'n arbenigo mewn trawsnewid iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a chynllunio strategol. Fel Aelod Cyswllt, mae Jonathan wedi cyflawni adolygiadau annibynnol lefel uchel o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys arfarnu darpariaeth gwasanaethau mewn awdurdodau lleol unigol, arfarniadau blynyddol o berfformiad gwasanaethau cymdeithasol a datblygiad fframwaith hunan-arfarnu ar gyfer byrddau diogelu rhanbarthol. 

Fel Cadeirydd Anweithredol Cymdeithas Dai Hendre a Chadeirydd Cymdeithas Dai Hafod mae Jonathan yn gyfrifol am arwain y Bwrdd, gosod y fframwaith strategol, darparu heriau, a chefnogi darpariad datrysiadau tai/cartrefu a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae Jonathan hefyd yn gynghorydd rhan-amser i Paul Davies AS a Dr Altaf Hussain AS.

Yn ei amser rhydd, mae Jonathan yn gwirfoddoli fel Aelod, a chyn Gadeirydd, Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd ac mae hefyd yn Gadeirydd ac yn Ymddiriedolwr Cymdeithas Gymunedol yr Eglwys Newydd sy’n gyfrifol am redeg y ganolfan gymunedol leol a’r ŵyl Haf flynyddol.

I weld ein holl aelodau bwrdd annibynnol ewch i: https://heiw.nhs.wales/about-us/heiw-board-independent/