Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestru ar agor: Cynhadledd rithwir 'Arloesi mewn amseroedd heriol'

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cynnal cynhadledd rithwir Edrych Ymlaen - 'Arloesi mewn amseroedd heriol' ar 27 Tachwedd 2020.

Yn agored i bob hyfforddwr meddygol, hyfforddeion meddygol a'r rhai sydd â diddordeb mewn gwella ansawdd, bydd y gynhadledd yn caniatáu i'r mynychwyr:

  • clywed sut mae hyfforddiant yn addasu ac yn newid mewn ymateb i COVID-19
  • dysgu am arloesi mewn cyfnod heriol
  • edrych ymlaen at ffyrdd newydd a gwahanol o hyfforddi.

Dywedodd Dr Anton Saayman, Cyfarwyddwr Gwella Addysg (Deoniaeth Feddygol) yn AaGIC “Mae digwyddiadau rhyfeddol 2020 wedi cael effaith enfawr ar gyflawni ein digwyddiadau arferol, gan gynnwys STEME a QISTMas. Fodd bynnag, bu llawer o arloesi.

“Mae ffyrdd newydd o weithio, dysgu a hyfforddiant wedi’u nodi ac edrychwn ymlaen at rannu rhywfaint o hyn gyda chi yn ein cynhadledd ym mis Tachwedd”.

Bydd y rhai sy'n mynychu'r digwyddiad hefyd yn cael cyfle i gyflwyno eu harloesedd fel poster.

Cliciwch yma i gofrestru

Rhannwch daflen y digwyddiad.