Neidio i'r prif gynnwy

CNB Cymru yn falch bydd AaGIC yn cefnogi carfannau CNB yn y dyfodol o Gynllun Nyrs Cadetiaid Coleg Tywysog Cymru.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar y byddan nhw'n cefnogi tair carfan o gadetiaid newydd yn y Coleg Nyrsio Brenhinol (CNB) cynllun Nyrs Cadetiaid Tywysog Cymru; un yn 2019/20 a dau yn 2020/21.

Nod y cynllun yw ysbrydoli pobl ifanc, yn enwedig y rheini o gefndiroedd amrywiol, drwy roi mynediad iddynt i gyfleoedd ar gyfer astudio academaidd a phrofiad ymarferol yn y sector gofal iechyd. Mae'n cyfuno 105 o oriau o ddysgu drwy brofiad dan arweiniad gyda lleoliadau arsylwad clinigol o fewn yr ardal gofal iechyd lleol ac ar hyn o bryd mae ar agor i 18 cadetiaid, rhwng 16 a 25 oed. Unwaith y byddant wedi cwblhau'r cyfnod sylfaen yn llwyddiannus, cynigir cyfweliad gwarantedig iddynt am swydd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a chan ddibynnu ar lefel eu haddysg, bydd cadetiaid yn gymwys i ymgymryd ag astudiaeth bellach mewn diploma ac yn y pen draw , lefel gradd. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn cael ei dreialu ar draws Cymru gyfan, mewn partneriaeth  Llu Gadetiaid y Fyddin, gyda golwg ar gyflwyno'r DU yn ehangach yn y dyfodol.

Dywedodd Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio, Addysg a Gwella Iechyd Cymru: "Rydym ni yn AaGIC yn falch iawn o ariannu tair carfan o'r cadetiaid i Gynllun Cadetiaid Nyrsio Tywysog Cymru. Fel rhan o sefydliad sy'n ymroi i wella'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, rwy'n edrych ymlaen at weld y cynllun yn ysbrydoli pobl ifanc ac yn rhoi cipolwg iddynt ar yrfa ym maes gofal iechyd. "

Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr CNB Cymru, "Rwyf wrth fy modd bod AaGIC wedi dewis cefnogi Cynllun Nyrs Cadetiaid Coleg Tywysog Cymru.  Bydd eu buddsoddiad yn galluogi mwy fyth o bobl ifanc i ddechrau ar daith i nyrsio a darganfod pa mor werthfawr a gwobrwyo y gall gyrfa nyrsio fod ".