Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Cymru i elwa o hyfforddiant endosgopi rhith-wirionedd newydd

Mae Rhaglen Genedlaethol Gwella Endosgopi Llywodraeth Cymru wedi gosod tasg i Addysg a Gwella Iechyd Cymru arwain is-grŵp Hyfforddi a Datblygu’r Gweithlu. Y cylch gwaith oedd datblygu llwybr addysgol newydd er mwyn hyfforddi nyrsys arbenigol i ddod yn endosgopyddion clinigol er mwyn helpu i gyflawni gwasanaethau endosgopi cynaliadwy ar gyfer cleifion Cymru. 

Bydd nyrsys arbenigol yn sgrinio ac yn canfod achosion ag amheuaeth o ganser y coluddyn; gan ddarparu ymyriadau sy’n achub bywydau i gleifion. Dechreuodd y garfan gyntaf o nyrsys y ddwy flynedd o hyfforddiant dwys ym mis Mawrth. Mae’r recriwtiaid newydd hyn yn ymgymryd â’u haddysg sgiliau clinigol yn yr Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru yw’r unig ganolfan yng Nghymru sy’n addysgu sgiliau clinigol gorfodol i lawfeddygon ac arbenigwyr clinigol GIG Cymru yn y meysydd trawma, gynaecoleg, wroleg, orthopedeg, llawdriniaeth gyffredinol, deintyddiaeth, laparosgopi ac endosgopi 

Mae’r fenter ar y cyd rhwng AaGIC a Phrifysgol Caerdydd wedi arwain at gaffael pedwar hyfforddwr endosgopi rhith-wirionedd newydd sbon. Mae’r cydweithwyr wedi gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr bod yr ysgogyddion wedi’u cyflenwi a’u bod yn barod i hyfforddeion eu defnyddio pan fydd rheoliadau cyfyngiadau symud yn caniatáu i hynny ddigwydd. Bydd yr ysgogyddion hynod realistig hyn yn galluogi gweithiwr gofal iechyd proffesiynol Cymru i ymarfer a gwella eu sgiliau endosgopi mewn amgylchedd rhithwir diogel a rheoledig. Byddant hefyd yn profi amrywiaeth o sefyllfaoedd hyfforddi i wella eu hyder a’u gallu fel arbenigwyr medrus wrth ganfod a thrin canser y coluddyn. 

[Llun: Dr Neil Hawkes a Stuart Goddard yn comisiynu’r ysgogyddion yn WIMAT]

Dywedodd Martin Riley, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg, Comisiynu ac Ansawdd yn AaGIC;

“Mae fframwaith hyfforddi wedi’i ddatblygu ar gyfer rhaglen addysg colonosgopi yng Nghymru. Rydyn ni’n fach iawn ein bod wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru a bydd y gwasanaeth endosgopi yng Nghymru’n rhoi mwy o fudd i’n cleifion”.

Dywedodd Stephen Griffiths, Cadeirydd Is-Grŵp Hyfforddi a Datblygu’r Gweithlu Rhaglenni Genedlaethol Gwella Endosgopi Llywodraeth Cymru “Rydyn ni’n falch o gefnogi ein partneriaid yn GIG gyda’r cyfleoedd mwyaf arloesol i ddatblygu sgiliau sy’n achub bywydau. Mae canfod a rheoli canser yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru; bydd y cyfarpar ysgogi hwn yn hyfforddi rhagor o glinigwyr endosgopi arbenigol er mwyn cynnig yr ymyrraeth gywir i bobl Cymru.

Dywedodd Neil Warren, Cyfarwyddwr WIMAT, ac Uwch-ddarlithydd:-

“Mae’r ffaith bod AaGIC wedi ariannu’r ysgogyddion hyn yn dangos rhagolygon gwych a gwir ymrwymiad at ddarparu hyfforddiant mewn endosgopi yng Nghymru, a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.

Bydd yr ysgogyddion yn gwneud yn siŵr bod yr endosgopyddion y gorau yn eu maes, gan eu galluogi i ymarfer sgiliau llaw, diagnostig a gweithdrefnol”.

Dywedodd Neil Hawkes, Arweinydd Addysg Glinigol, “Mae amseriad cael yr adnodd gwych hwn yn berffaith! Mae COVID-19 wedi lleihau gallu hyfforddeion i gael mynediad at hyfforddiant endosgopi ymarferol mewn lleoliad clinigol. Mae cael mynediad at ysgogyddion cyfrifiadurol o ansawdd uchel yn ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth o gyflymu’r broses o ddatblygu sgiliau endosgopi da yn ystod camau cyntaf yr hyfforddiant i fod yn endosgopydd. Rydyn ni’n un o’r ychydig safleoedd ledled y DU sydd â mynediad at y math hwn o gyfleuster, a byddwn yn ceisio gwneud yn siŵr bod cynifer o hyfforddeion â phosib yn gallu cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r ysgogyddion. Hefyd, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid academaidd i astudio’n agos sut mae cwblhau’r cwricwlwm ysgogyddion o fudd i gynnydd ein hyfforddeion.

Y bwriad yw cynnal y sesiwn hyfforddi gyntaf yn defnyddio’r ysgogyddion ym mis Mehefin 2020. Bydd hyn ar yr amod bod cyfyngiadau’r llywodraeth yn caniatáu hyn, ac y gellir cadw pellter cymdeithasol a gwisgo cyfarpar diogelu personol.

 

Diwedd.

Nodiadau i’r Golygydd: 

  • Mae’r Rhaglen Genedlaethol Gwella Endosgopi yng Nghymru’n cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru a nodir yn Iechyd Darbodus a Cymru Iachach i gyflawni gofal iechyd effeithiol sy’n canolbwyntio ar y claf trwy fuddsoddi mewn a gwella sgiliau holl weithwyr Gofal Iechyd. 
  • Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Mae AaGIC yn awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru, wedi’i greu trwy gyfuno tri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu’r Gweithlu (WEDS) GIG Cymru; a Chanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru (WCPPE).  
     
    Ochr yn ochr ag ymddiriedolaethau a byrddau iechyd, mae gan AaGIC rôl flaengar mewn addysgu, hyfforddi, datblygu, a siapio gweithlu iechyd Cymru. Mae ei brif swyddogaethau’n cynnwys addysgu a hyfforddi, moderneiddio a datblygu'r gweithlu, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio gweithlu strategol, casglu gwybodaeth am y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad.
  • Gellir cael rhagor o wybodaeth yn https://heiw.nhs.wales/