Neidio i'r prif gynnwy

Clare Carpenter o AaGIC yn derbyn Gwobr am Ragoriaeth mewn Arweinyddiaeth mewn Addysg Lawfeddygol

Mae Clare Carpenter, Ymgynghorydd Trawma ac Orthopedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi Hyfforddiant Trawma ac Orthopedeg yn AaGIC, wedi derbyn Gwobr am Ragoriaeth mewn Arweinyddiaeth mewn Addysg Lawfeddygol.

Rhoddwyd y wobr gan Doctors Academy, consortiwm rhyngwladol o ymarferwyr meddygol a deintyddol, am ei hangerdd, ei hymrwymiad a'i rhagoriaeth wrth ddarparu arweinyddiaeth mewn addysg lawfeddygol i fyfyrwyr meddygol a hyfforddeion llawfeddygol.

Nod yr Academi yw hyrwyddo addysg feddygol, lledaenu gwybodaeth a chyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd rhwng gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar draws lleoliadau gofal iechyd amrywiol.

Yn ei rôl yn AaGIC, mae Clare yn gyfrifol am sicrhau bod hyfforddiant o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu ar gyfer y Rhaglen Hyfforddiant Trawma ac Orthopedeg, sydd eisoes gyda 48 o hyfforddeion.

Mae ei gwaith yn hanfodol i sicrhau cynaliadwyedd y gweithlu ymgynghorol yn y maes hwn yn y dyfodol.

Dywedodd “Rwy'n ddiolchgar iawn i Doctors Academy am eu cydnabyddiaeth o fy ymrwymiad i addysg lawfeddygol, ond ni fyddai'n bosibl heb gefnogaeth, brwdfrydedd ac ymrwymiad fy nghydweithwyr ar draws rhanbarth Cymru sydd i gyd yn gweithio'n anhygoel o galed i ddarparu addysg i'n llawfeddygon y dyfodol.”

Llongyfarchodd Tom Lawson, Deon Meddygol Ôl-raddedig a Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Clare ar ei llwyddiannau:

“Mae'r wobr hon yn haeddiannol iawn. Fel Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi Hyfforddiant Trawma ac Orthopedeg yn AaGIC, mae cyfraniad Clare at addysg, hyfforddiant a chefnogaeth i hyfforddeion ledled Cymru heb ei ail ac rydym yn ffodus iawn i'w chael fel rhan o'n tîm. Llongyfarchiadau mawr iawn Clare.”