Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi lles staff AaGIC trwy gydol Covid-19

Mae adroddiad newydd wedi edrych ar y gefnogaeth sydd ar gael i helpu staff y GIG ledled Cymru i gynnal eu hiechyd meddwl a'u lles yn ystod pandemig Covid-19.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi bod ac yn parhau i gefnogi ei staff ei hun yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ym mis Mawrth 2020, caeodd swyddfeydd AaGIC a rhaid oedd i'r staff addasu'n gyflym i weithio o gartref yn rhithwir. Er mwyn eu cefnogi gyda hyn, roedd staff yn gallu mynd ag eitemau allweddol o offer TG adref fel sgriniau, gyda chymorth TG yn cael ei ddarparu ar-lein a dros y ffôn.

Cyhoeddwyd diweddariadau ysgrifenedig wythnosol gan y Prif Swyddog Gweithredol a'r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol hefyd i staff trwy e-bost a mewnrwyd y sefydliad i gadw’r staff yn gyfredol ac i fod mewn cysylltiad â'i gilydd. Yn ogystal, symudwyd y fforwm agored staff misol a gynhelir yn bersonol fel arfer ar-lein gan ddenu oddeutu 80 aelod o staff y sesiwn - gyda'r ail don Covid-19 cynyddodd nifer y fforymau i bob pythefnos.

Mae rhwydweithiau staff amrywiol ar draws AaGIC hefyd wedi datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi ei gilydd fel:

  • Paned a Sgwrs - Cuppa Catchup: Sgwrs rithwir ddyddiol 'tawelu meddwl' i gwrdd a siarad yn unig.
  • Angen Clust Gyfeillgar: Rhwydwaith o hyrwyddwyr lles, cynhwysiant a diwylliant sy'n cynnig clust gyfeillgar.
  • Cymuned: Cymuned ddigidol i staff gael cysylltu.

Wrth weithio’n rhithwir, cynhaliodd AaGIC amrywiol arolygon staff ar iechyd a lles a gweithio o gartref i ddeall anghenion newidiol y gweithlu. Ym mis Mehefin, cynhaliwyd Asesiad Anghenion Iechyd Covid-19 ar draws y sefydliad. Yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolwg, ac yn gysylltiedig â'r 5 Ffordd o Les, lansiwyd ymgyrch gyfathrebu i ddarparu cyfeiriadau at adnoddau iechyd a lles staff fel: gwasanaethau cyllid; gweithio o gartref; Iechyd meddwl; gweithgaredd Corfforol; cwsg, a cham-drin domestig.

Mae AaGIC hefyd wedi cynnig ystod o sesiynau addysg iechyd a lles i staff gan gynnwys gweithdai Gwneud yn fawr o’ch Dydd a chyrsiau Byw yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar. Ar yr un pryd, mae AaGIC wedi parhau i gefnogi nifer o ddiwrnodau ymwybyddiaeth yn fewnol ac yn allanol gan gynnwys Ymwybyddiaeth Alcohol, Sgwrs am Arian, Wythnos Bywyd Gwaith ac Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Mae’r Uned Cymorth Proffesiynol (UCP) yn AaGIC hefyd yn darparu cefnogaeth broffesiynol i bob meddyg a deintydd wrth hyfforddi yng Nghymru. Mae'r UCP yn darparu arweiniad cyfrinachol a chefnogaeth fugeiliol i helpu hyfforddeion i symud ymlaen i hyrwyddo lles a datblygiad personol.

Gellir cysylltu â UCP trwy HEIW.ProfessionalSupport@wales.nhs.uk