Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi gofal cleifion yn y rheng flaen yn ystod y pandemig

Mae dwy o fyfyrwyr MPharm Prifysgol Caerdydd o Gymru, a gefnogodd y GIG yn ystod pandemig coronafeirws, wedi rhannu eu straeon gweithle o weithio yn ystod y cyfnod Covid.

Mae myfyrwyr MPharm yn dilyn rhaglen pedair blynedd cyn dechrau eu hyfforddiant blwyddyn cyn cofrestru ac wedyn mae pasio asesiadau cofrestru terfynol yn eu gwneud yn gymwys i gofrestru fel fferyllwyr cymwysedig.

Mae Holly Breeze-Jones a Rebecca Penney ill dwy yn eu 3edd flwyddyn o hyfforddiant, dechreuasant weithio mewn fferyllfeydd lleol tua'r adeg y cyfnod cloi.  Cynyddodd y galw am wasanaethau fferylliaeth yn ddramatig bryd hynny ac mae'r ddau yn falch o fod yn rhan o dîm a wnaeth wahaniaeth yn eu cymunedau.

 

Cefnogi gofal cleifion yn y rheng flaen yn ystod y pandemig: Sylwadau gan fyfyrwyr fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd

 

Fel myfyrwyr fferylliaeth trydedd flwyddyn, rydym wedi bod yn falch i sefyll ochr yn ochr â'r proffesiwn fferylliaeth ac i gefnogi gofal cleifion yn ystod cyfnod o her fel nas gwelwyd ei debyg o'r blaen. Yma rydym yn rhannu ein profiad a'n mewnwelediad i ddelio â phwysau'r pandemig COVID19 ac i dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi addysg a hyfforddiant ar waith. 

Y pethau cadarnhaol o weithio drwy bandemig

Un peth sydd wedi gwneud argraff fawr arnom yn ystod y cyfnod anodd a digynsail hwn yw lefel yr amynedd a'r ddealltwriaeth a ddangoswyd gan y mwyafrif helaeth o'r cyhoedd, rhywbeth y mae timau fferylliaeth wedi'u gwerthfawrogi'n fawr. Gyda chynnydd enfawr mewn cyfaint sgriptiau, gall presgripsiynau gymryd hyd at wythnos i weinyddu yn hytrach na'r 48 awr a weithir iddo'n arferol, a allai achosi trallod dealladwy i gleifion.

Mae wedi ein llenwi â balchder wrth glywed cleifion yn rhoi o'u hamser i ddiolch i'r timau fferylliaeth am eu gwaith caled a phwysleisio bod staff fferylliaeth yn ddi-os yn weithwyr allweddol. Yn ogystal, mae'r gwaith tîm a ddangoswyd rhwng aelodau staff wedi bod yn anhygoel, sydd wedi gwneud i ni deimlo'n hynod o falch o weithio mewn fferyllfeydd cymunedol. Gan nad oes gan aelodau o'r staff y dewis ond gwarchod am eu diogelwch eu hunain, neu am ddiogelwch eu teulu, mae lefelau'r staff wedi gostwng ar yr amser prysuraf a wynebwyd erioed.

Mae staff wedi bod yn gweithio oriau a diwrnodau ychwanegol i sicrhau bod gofal sy'n canolbwyntio ar y claf yn cael ei fodloni i'r safonau uchaf, yn ogystal â bod yno i gefnogi ei gilydd mewn amgylchedd mor anodd a llawn straen. Mae'r pethau cadarnhaol hyn wedi ein galluogi i fyfyrio ynghylch ein profiadau a dysgu gwersi gwerthfawr inni am fywyd y byddwn yn eu cofio wrth inni ddatblygu fel y genhedlaeth nesaf o fferyllwyr.

Heriau a wynebwyd wrth weithio yn ystod pandemig

Roedd meddygfeydd yn lleihau cyswllt wyneb yn wyneb â'r cyhoedd tra bod ymwelwyr â fferylliaeth gymunedol wedi cynyddu'n fawr, gyda'r galw am ymgynghoriadau mân anhwylderau a chyngor gofal iechyd yn cynyddu'n ddramatig, a llawer o bobl yn gofyn am werth 2 neu 3 mis o'u meddyginiaeth. Roedd y stoc yn cael ei disbyddu'n rheolaidd gyda meddygaethau galw uchel yn rheolaidd allan o stoc, llinellau ffôn yn dirlawn a ciwiau yn ddi-ddiwedd. Yr oedd yn deimladwy gweld sut yr oedd cleifion o'r diwedd yn gweld gwerth mewn cael mynediad i wasanaethau gofal iechyd ar y stryd fawr, yn enwedig gyda llawer yn defnyddio'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin gan ei bod yn haws gweld fferyllydd na meddyg.

Ond ar yr un pryd, roeddem dan bwysau. Roeddem yn rheoli llwyth gwaith cynyddol, ac roedd popeth yn cymryd mwy o amser nag arfer oherwydd yr heriau a wynebwyd. Ond roeddem hefyd yn daer i ddarparu'r gofal gorau posibl. Roedd yn teimlo fel ein bod yn gweithio o dan bwysau, oddi wrth ein hunain a chleifion, ac yn cael ein tanio gan adrenalin.

Yn ddigon dealladwy, roedd cleifion yn ofnus iawn, a gwnaethom ein gorau i'w cysuro. Ond cawsom hefyd yr ofn o ddal COVID ein hunain a dod ag ef adref i aelodau o'r teulu a oedd yn agored i niwed neu hefyd yn weithwyr rheng flaen, yn enwedig gan ei fod wedi cymryd amser i'r PPE ddod ar gael ar gyfer fferyllfeydd. Fodd bynnag, mae gweithio drwy'r anawsterau hyn wedi dangos inni ein bod yn gallu gwneud llawer mwy nag yr oeddem yn ei feddwl ac wedi ein paratoi'n fwy ar gyfer y dyfodol.

Rhoi addysgu ar waith - sut mae ein hastudiaethau yn y Brifysgol wedi helpu .

Fel fferyllwyr y dyfodol, fe'n haddysgir i gynnal y 9 Safon ar gyfer gweithwyr fferyllol proffesiynol, a'r safonau craidd yw gofal sy'n canolbwyntio ar y person. Yn ystod y pandemig hwn, rydym wedi gallu gweld hyn yn cael ei roi ar waith bob dydd, gyda fferyllwyr yn cael eu gosod mewn sefyllfaoedd newydd a heriol lle maent bob amser yn ceisio datrys materion sydd o'r budd mwyaf i'r claf yn ei hanfod.

Rhan nodweddiadol a phwysig arall o'n hyfforddiant yw cyfathrebu. Dydyn ni erioed wedi teimlo mor ddiolchgar am y dosbarthiadau meistr a'r gweithdai rydyn ni wedi'u cael ym Mhrifysgol Caerdydd a wnaeth ein paratoi mor dda. Er enghraifft, gyda ni ein hunain a chleifion yn gwisgo masgiau wyneb ar gyfer PPE, rydym wedi gorfod dibynnu ar gyfathrebu di-eiriau ac iaith y corff i sylwi ar ymateb ac anghenion y claf. Mae gwybod am ofyn cwestiynau arweiniol i gael dealltwriaeth bellach o'u pryder, gan ddangos empathi a gwir ymateb i'w pryderon, wedi golygu y gallwn helpu cleifion gyda mwy na dim ond rhoi meddyginiaeth iddynt.

Safbwyntiau newydd

Bu'n rhai misoedd gwallgof, gyda llawer o heriau yn ein gwynebu, problemau'n cael eu datrys, a gwersi'n cael eu dysgu, ac yr ydym ni, fel llawer o fyfyrwyr fferyllol eraill ledled y wlad sy'n helpu ar y rheng flaen yn ein cael ein hunain yn fwy gwydn, cryf a hyblyg o ganlyniad i'n profiadau.

---

Pwy yw’r awduron?

 

Holly Breeze-Jones

Mae Holly yn fyfyriwr Fferylliaeth trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Wedi gweithio yn ei fferyllfa annibynnol leol ym Mhenclawdd yn Abertawe am y 4 blynedd diwethaf, yr oedd Holly yn ymrwymedig i ddychwelyd i weithio yn y fferyllfa hon pan oedd hi'n gallu gwneud hynny yng nghanol mis Mawrth.

Mae profiadau Holly o weithio drwy'r pandemig wedi bod yn anodd a chaled ar adegau, ond mae wedi dysgu cymaint iddi ac wedi gwneud iddi sylweddoli pa mor bwysig yw gwaith tîm a chyfathrebu mewn gwirionedd. Er bod Holly yn teimlo'n nerfus wrth dychwelyd i weithio mewn amgylchiadau mor ddigyffelyb, a gyda sefyll arholiadau 3edd flwyddyn i feddwl amdanynt, teimlai'n falch ei bod yn dychwelyd i'r gwaith i helpu tîm mor frwdfrydig a chefnogol a oedd angen cymorth ychwanegol oherwydd cynnydd enfawr yn y galw.

Rebecca Penney

Fel myfyriwr Fferylliaeth trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, dechreuodd Rebecca weithio yn fferyllfa Castell-nedd cyn gynted ag y daeth addysgu campws wyneb yn wyneb droi i addysgu ar-lein, yn union cyn i'r cyfnod clo ddechrau. Roedd Rebecca yn ymwybodol bod timau fferylliaeth yn wynebu cynnydd enfawr yn eu llwyth gwaith a theimlai ei bod yn gorfod helpu yn ystod y pandemig a chyfrannu ar y rheng flaen, gan ddefnyddio ei phrofiad o weithio yn y fferyllfa gynt a'r wybodaeth a gafwyd o'i hastudiaethau.

Roedd Rebecca yn teimlo'n bositif iawn dros allu helpu fel hyn, gan ymrwymo i 2-3 diwrnod yr wythnos i ddechrau tra hefyd yn paratoi ar gyfer asesiadau ar-lein. Nododd Rebecca fod y gwaith yn ystod y pandemig wedi rhoi heriau unigryw; roedd yn straen, gyda fferyllfeydd yn cael eu gwthio i derfynau fel erioed o'r blaen. Ond roedd gweld pawb yn y fferyllfa yn tynnu gyda'i gilydd yn profi cymaint y gall gwaith tîm wneud gwahaniaeth ac mae hi'n dweud ei bod yn teimlo'n anhygoel i fod yn rhan o hynny.