Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau newydd rolau fferyllwyr ymgynghorol yng Nghymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW) yn croesawu canllawiau DU newydd sy'n adeiladu ar broses gymeradwyo genedlaethol bresennol yng Nghymru ar gyfer cymeradwyo swyddi fferyllwyr ymgynghorol.

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru 14 o fferyllwyr ymgynghorol sy'n arwain ac yn dylanwadu ar draws ffiniau sefydliadol i wella gofal cleifion.  Maent yn sicrhau defnydd diogel o feddyginiaethau yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Fel arweinwyr ymchwil yn eu maes, mae fferyllwyr ymgynghorol yn gyrru arloesedd mewn ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol ac addysg ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Mae lansio canllawiau newydd y GIG ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn disgrifio dull tryloyw a chyson o weithredu ar ôl datblygu a chymeradwyo.

Mae Margaret Allan, Deon Fferylliaeth AaGIC, yn disgrifio sut y mae llwybr clir yn dod i'r amlwg yn awr ar gyfer y llwybr at bractis fferyllydd ymgynghorol yng Nghymru,

"Mae'r GIG yn cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth glinigol ar draws y tîm amlddisgyblaeth i wella canlyniadau i gleifion. Bydd fferyllwyr ymgynghorol yn chwarae eu rhan i arwain o fewn ac ar draws sefydliadau ar ddefnyddio meddyginiaethau mewn ffyrdd diogel a rhesymol. "

"Rôl AaGIC fydd sicrhau bod gan Gymru gronfa o fferyllwyr sydd â'r ystod eang o sgiliau a phrofiad yn barod i gamu i swyddi fferyllwyr ymgynghorol pan fyddant ar gael. Er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae ein tîm fferylliaeth ar hyn o bryd yn datblygu llwybrau gyrfaol hyblyg i fferyllwyr ar ôl eu cofrestru, a fydd yn galluogi'r gweithlu i adeiladu ar y sgiliau presennol tra'n datblygu sgiliau newydd.

Canllawiau i Fferyllwyr Ymgynghorol   https://www.hee.nhs.uk/sites/default/files/documents/Consultant%20pharmacy%20guidance%20welsh%20version%20Jan2020.pdf