O 2023, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cofrestru ein myfyrwyr nyrsio deintyddol yn aelodau o Gymdeithas Nyrsys Deintyddol Prydain (BADN) fel mater o drefn.
Bydd aelodaeth o'r BADN yn galluogi myfyrwyr i gyrchu cyfoeth o adnoddau cynorthwyol trwy gydol eu hyfforddiant a'u gyrfa, megis;
Mae aelodaeth myfyriwr BADN fel arfer yn costio £10 y flwyddyn. Gall defnydd da o'r aelodaeth hon arbed hyd at £500 y flwyddyn i aelodau.
Mae'r cynllun hwn yn gymorth i’r cwrs diploma nyrsys deintyddol newydd sy'n dechrau ym mis Mehefin. Mae AaGIC wedi gweithio gyda'r Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Nyrsys Deintyddol (NEBDN) i lansio'r rhaglen hyfforddi hon er mwyn gwella recriwtio a chadw mewn deintyddiaeth, ac yn arbennig gyda nyrsys deintyddol. Mae bod yn rhan o gorff proffesiynol a’r llais proffesiynol sy’n datblygu o fewn hynny yn bwysig. Dyna pam y bydd myfyrwyr y rhaglen hyfforddi hon yn cael aelodaeth i’r BADN fel mater o drefn.
“Fel aelod o’r BADN am bron fy mywyd proffesiynol cyfan(tua 40 mlynedd) rydw i wedi manteisio cael fy nghynorthwyo ganddo bob cam o fy ngyrfa fel nyrs ddeintyddol. Bydd ein myfyrwyr sy’n newydd i’r gweithlu deintyddol yn cael y budd o fod yn rhan o’u proffesiwn ar ddechrau eu gyrfa.” - Kathryn Marshall, Pennaeth Datblygu Gweithlu Deintyddol, AaGIC
Mae AaGIC yn falch o weithio gyda phartneriaid i gynorthwyo gweithwyr deintyddol proffesiynol, fel y gallan nhw fwynhau gyrfa sy’n bodloni a gwneud gwahaniaeth i iechyd pobl yng Nghymru.