Neidio i'r prif gynnwy

Bwrsariaeth GIG Cymru

Yn hydref 2020 ysgrifennodd AaGIC at yr holl raddedigion nad oeddent, yn ein deall ni, mewn cyflogaeth o fewn GIG Cymru gyda gwybodaeth am y broses Apelio a phenderfynodd AaGIC i ohirio hyn oherwydd oandemig COVID-19. Mae'r broses Apelio hon bellach wedi'i diweddaru a bydd rhagor o wybodaeth ar gael o'r wefan hon ddiwedd mis Ebrill. Mae ychydig o oedi cyn rhoi'r dogfennau a chanllawiau ar y safle hwn ac ymddiheurwn am hyn. Mae graddedigion yn parhau i gael y cyfle i gael eu hystyried i'w rhyddhau o'r cyswllt bwrsariaeth yn amodol ar feini prawf penodol. Mae'r cyfle hwn ar gael o hyd i raddedigion a lofnododd Delerau ac Amodau Ebrill 2020.

Os ydych eisoes wedi gofyn am apêl, nid oes angen ailymgeisio oni bai eich bod yn dymuno tynnu eich cais yn ôl.  Os felly, defnyddiwch yr e-bost isod. Bydd AaGIC yn cysylltu â phawb sydd wedi cyflwyno apêl o fis Ebrill 05 2021.

I'n helpu i'ch cefnogi tra byddwch ar y cynllun bwrsariaeth, mae AaGIC wedi creu cyfeiriad e-bost pwrpasol y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pob ymholiad a derbyn gwybodaeth. Cysylltwch â;  HEIW.bursary@wales.nhs.uk