Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddiad digynsail a cyfleoedd hyfforddi wrth i GIG Cymru dyfu

Bydd buddsoddiad enfawr o £260 miliwn yn rhoi hwb i hyfforddiant ac yn helpu i wneud y mwyaf o weithlu iechyd a gofal y dyfodol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo Cynllun Addysg a Hyfforddiant uchelgeisiol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) 2022-23 ar gyfer GIG Cymru a fydd yn creu'r nifer uchaf erioed o leoedd hyfforddi.

Mae twf cyffredinol y gweithlu yng Nghymru wedi cynyddu'n gyson dros y degawd diwethaf a diolch i gynllun 2022/23 gwelir:

• 205 o fyfyrwyr nyrsio ychwanegol

• 111 o leoedd arbenigol meddygol ychwanegol

• ariannu mwy na £2.5 miliwn i gynnal twf

• cynnal y targed presennol o 160 o feddygon teulu, gydag opsiwn i or-recriwtio i 200 lle y bo'n ymarferol

• ymdrechion parhaus i uwchsgilio'r gweithlu fferyllol presennol; a

• ymrwymiad i dwf meysydd eraill, gan gynnwys bydwreigiaeth, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gweithwyr cymorth gofal iechyd, cysylltwyr ffiseg a deintyddol.

Meddai Push Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC a Lisa Llewelyn, Cyfarwyddwr Nyrsio ac Addysg Broffesiynol Iechyd AaGIC, Mae AaGIC wedi cynnig cynnydd sylweddol o flwyddyn i flwyddyn mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Mae'r cadarnhad hwn gan Lywodraeth Cymru yn parhau â'r llwybr cadarnhaol yn 2022-23 ac mae'n gweld cynnydd o 15 y cant mewn buddsoddiad. Yr ydym yn hynod falch o gael cefnogaeth i'r cynllun hwn.

“Mae'r pandemig wedi newid y dirwedd hyfforddi a byddwn yn cefnogi hyfforddeion a myfyrwyr gofal iechyd yn y cyfnod heriol hwn. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i gyfraniad ac ymroddiad enfawr staff y GIG a'n sefydliadau addysg yng Nghymru wrth ddatblygu ein gwasanaethau iechyd a gofal i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.”

Ystyriodd y broses gynllunio ystod eang o wybodaeth am y gweithlu gan gynnwys y piblinellau hyfforddi cyfredol, capasiti hyfforddi o fewn y gwasanaethau, gwybodaeth am y gweithlu a gwybodaeth a gasglwyd gan sefydliadau drwy eu Cynlluniau Blynyddol a'u gofynion comisiynu addysg.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: “Mae'r buddsoddiad hwn, sef yr wythfed flwyddyn yn olynol yr ydym wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer lleoedd hyfforddi, yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi capasiti gweithlu GIG Cymru.

"Mae pandemig Covid-19 wedi rhoi galw mawr ar ein GIG ac rydym yn hynod falch o'r ffordd y mae pawb wedi camu i'r adwy i ofalu am bobl Cymru.

"Mae angen i ni barhau i hyfforddi a chryfhau ein gweithlu, fel ei fod yn barod ar gyfer pob her yn y dyfodol y gallai ei hwynebu, a gwella gwytnwch wrth i ni geisio gwella o effeithiau'r pandemig.” 

Gweld y cynllun addysg a hyfforddiant llawn.