Neidio i'r prif gynnwy

Blwyddyn sy'n torri record am hyfforddiant gwella ansawdd yng Nghymru

Mae 2021-2022 wedi bod yn flwyddyn torri recordiau ar gyfer ein Tîm Sgiliau Gwella Ansawdd (QIST), sy’n gyfrifol am ddarparu hyfforddiant Gwella Ansawdd (QI) ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ar draws Cymru.

Wedi ei gyhoeddi heddiw, mae Adroddiad Blynyddol QIST yn dangos bod y nifer o weithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi derbyn hyfforddiant QI yng Nghymru wedi cynyddu 38.25% rhwng 2020-2021 a 85% rhwng 2018-19.

Gwelodd 2021-22 y nifer mwyaf o bobl yn derbyn hyfforddiant QI mewn blwyddyn  ers dechreuad ein tîm QIST yn 2016. Gafodd hyfforddiant ei ddarparu ar draws ystod eang o arbenigeddau meddygol, hyfforddiant sylfaen, deintyddol, fferylliaeth a Chymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru AaGIC.

Beth yw hyfforddiant gwella ansawdd?

Mae ein tîm QIST yn gweithio mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru i ddatblygu a darparu rhaglen hyfforddiant Gwella Ansawdd unigryw ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, wedi ei gyflwyno drwy gyfrwng gweithdai, prosiectau gwella ac adnoddau QI o ansawdd.

Mae methodoleg Gwella Ansawdd yn darparu gweithwyr iechyd proffesiynol gyda’r wybodaeth a sgiliau all gael eu defnyddio i weithredu newidiadau amser-real, i wella gwasanaethau iechyd a’r amgylchedd dysgu yn y meysydd diogelwch cleifion, llesiant a chynaladwyedd.

Mae’r Athro Pushpinder Mangat (Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC) yn myfyrio ar lwyddiant y rhaglen QIST hyd yn hyn:

“Mae Gwella Ansawdd o fewn gofal iechyd yn bwysig i bawb, ac yn hanfodol i les ein cleifion. Mae gwneud yn siŵr bod gan ein cymuned gofal iechyd y sgiliau i wella ansawdd gofal yn anhepgor i anghenion ein gwasanaeth, yn enwedig nawr gyda’r gwasanaethau o dan gymaint o bwysau. Rwy’n falch o’n Tîm Sgiliau Gwella Ansawdd sydd wedi cyflymu eu gwaith amlbroffesiynol wrth i ni ddod allan o’r pandemig COVID a cheisio mynd i’r afael â’r heriau newydd”.

Mae gweithdai yn dal i gael adborth positif gyda 93.6% o bob gweithdy Gwella mewn Ymarfer 2021-2022, a 89% o bob gweithdy Sylfeini Gwelliant 2021-2022 yn cael ymateb ‘da’ neu ‘ardderchog’.

Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r adroddiad yn amlygu datblygiadau pellach i’r rhaglen i sicrhau fod ei llwyddiant yn parhau a'i bod yn tyfu, yn cynnwys cyflwyno dull hyfforddi-hybrid o gyflwyno gweithdai a Rhaglen Hyfforddwr QIST newydd, ymysg eraill.

Mae’r adroddiad ar gael i chi ddarllen yma.

Am fwy o wybodaeth am QIST, ewch i QIST - AaGIC.