Neidio i'r prif gynnwy

Blogiau Staff: Wythnos y Lluoedd Arfog

Mae’r wythnos hon yn Wythnos y Lluoedd Arfog, amser fel cenedl i ddangos ein gwerthfawrogiad a’n cefnogaeth i’r dynion a’r menywod sy’n rhan o gymuned y lluoedd arfog; o filwyr sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y lluoedd arfog, cyn-filwyr a chadetiaid.

Ym mis Mai eleni, roeddem yn falch o dderbyn Gwobr Lefel Efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, sy’n tynnu sylw at y ffaith ein bod yn gyflogwr cyfeillgar i’r lluoedd arfog. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma. Ar hyn o bryd rydym yn diweddaru ein polisïau ymhellach ac yn ymgysylltu â chydweithwyr ar draws y sefydliad i ennill y Wobr Arian. Gobeithiwn y bydd hyn o help wrth i ni ddenu rhagor o aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog i ymuno â’n gweithlu.

Mae gan lawer o'n gweithwyr presennol aelodau o'r teulu sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi gwasanaethu dros ein gwlad gyda dewrder ac ymrwymiad. Wrth i wythnos y lluoedd arfog agosáu, mae ein cydweithwyr am rannu a myfyrio ar yrfaoedd, cyflawniadau, aberthau a dewrder eu hanwyliaid.

 

Amy Whitehead
Cynorthwyydd Gweithredol AaGIC

Gwasanaethodd fy ngŵr gyda Byddin Prydain am 20 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd ei anfon i Ogledd Iwerddon, Kosovo, Bosnia, Irac ac Afghanistan sawl gwaith. Fel teulu, rydyn ni’n hynod falch o’i gyflawniadau, sut yr oedd wedi cynrychioli ein gwlad gydag arwriaeth a dewrder, ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar ei fod wedi dychwelyd adref yn ddiogel.

Mae bod yn filwr, yn rhif ac yn rheng yn fwy na swydd, mae'n ffordd o fyw, mae'ch cyd-filwyr yn dod yn deulu ac mewn amseroedd mwyaf heriol, ar dir anghyfarwydd, mae eich cyd-filwyr yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen. Mae gadael yr amgylchedd hynny a dychwelyd i fywyd sifil yn addasiad mawr ac yn hyn o beth bu rhaid i fy ngŵr ddechrau bywyd newydd fel cyn-filwr ac adeiladu gyrfa newydd. Dyna pam mae hi mor werthfawr i sefydliadau fel AaGIC ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog, gan gydnabod y sgiliau trosglwyddadwy a’r ased y mae cymuned y lluoedd yn eu cynnig i’r gweithlu.

I ni, ef yw ein Harwr, nid yn unig am y medalau y mae wedi'u hennill, ond am ei waith caled, ei ymroddiad a'i waith anhunanol wrth roi eraill yn gyntaf.

 

Push Mangat
Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC

Rwy'n dod o deulu milwrol gyda hanes hir o Wasanaeth Cyhoeddus. Brwydrodd fy hen dad-cu ar ochr fy mam a'i ddau frawd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc, ochr yn ochr â fy nhaid ar ochr fy nhad.

Rydym nawr ychydig heibio heuldro'r haf, ond mae heuldro'r gaeaf yn nodi'r diwrnod y bu farw fy hen dad-cu a'i frodyr ym Mrwydr Givenchy yng Ngogledd Ffrainc, gan adael y ddau frawd arall, ond yn 15 oed, i ofalu amdanynt eu hunain. Bu fy nhad-cu ar ochr fy nhad hefyd yn ymladd yn yr Ail Ryfel Byd yn Burma fel y gwnaeth fy nhad-cu ar ochr fy mam a aeth ymlaen i fod yn swyddog wedi’i gomisiynu yn gwasanaethu ym Myddin Prydain. Roedd gen i ewythr hefyd a wasanaethodd fel Swyddog o fewn y Llu Awyr yn India.

Yr ychwanegiad mwyaf diweddaraf yw fy mab, sydd wedi bod yn y Môr-filwyr Brenhinol ers deng mlynedd ac ar hyn o bryd yn gwasanaethu gyda lluoedd arbennig y DU ac yn gwasanaethu’n weithredol ar hyn o bryd. Mae hwn yn destun balchder mawr i mi ond hefyd yn gyfnod pryderus fel rhiant! Rwyf wrth fy modd ein bod wedi ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog sy'n cydnabod bod gan lawer ohonom deulu sy’n gwasanaethu.

 

Beckie Chandler
Swyddog Strategaeth a Chynllunio’r Gweithlu, AaGIC

Ymunodd fy nhad â’r Fyddin Diriogaethol (y Fyddin Wrth Gefn erbyn hyn) yn ddeunaw oed fel ffordd o ddianc rhag bywyd ar y fferm ar ôl iddo fethu â bodloni’r gofynion i fod yn beilot awyrennau ymladd. Gwasanaethodd am bedwar deg dau o flynyddoedd a chafodd ei leoli ar draws y byd, gan drosglwyddo i'r fyddin arferol cyn ymddeol eleni fel Uwchgapten o fewn y Corfflu Logisteg Brenhinol. Ar hyd fy oes mae dad wedi ceisio ein gwarchod rhag rhannau anoddaf yr hyn y mae'n ei wneud, fel plentyn ifanc byddai'n dweud wrthyf ei fod yn Toffee Allsort pan ofynnais beth oedd ystyr TA!

Rwyf mor falch o’r hyn y mae wedi’i gyflawni drwy gydol ei yrfa, o ddod yn Uwchgapten, teithio dros nos i Abergwaun fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant Goresgyniad Olaf Prydain, cynorthwyo gyda threfnu dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog De Cymru yng Nghaerffili yn 2017 i ddatblygu set arbenigol o sgiliau a chymwysterau a oedd yn golygu bod galw amdano ledled y DU. Fel uned deuluol, roedd dad am i ni gael cartref sefydlog a pheidio â chael ein symud o gwmpas i farics gwahanol yn dibynnu ar ei gatrawd neu leoliad presennol. Fel plentyn roeddwn i'n meddwl bod hyn yn gwbl annheg ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o'r anturiaethau y clywais i’r plant milwrol eraill yn trafod wrth i ni fynychu digwyddiadau arbennig. Fel oedolyn rwy’n wirioneddol ddiolchgar am yr aberth a wnaeth ef a fy mam wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae fy nhad yn ddyn tawel a fydd yn mynd allan o'i ffordd i helpu pobl yn ddi-glod ac yn mwynhau ailadrodd straeon doniol am y cymeriadau y mae wedi dod ar eu traws drwy gydol ei yrfa. Mae’r effaith y mae ei yrfa wedi’i chael yn gorfforol ac yn feddyliol yn bris uchel i’w dalu ond os gofynnwch iddo, fe fyddai’n ei dalu eto gan mai dyna’r person ydyw ac mae hynny’n fy ngwneud i mi deimlo mor falch o'i alw'n dad.

 

Mike Mogford
Uwch Bartner Busnes y Gweithlu, AaGIC

Mae ein mab sy'n 33 oed wedi bod yn yr RAF ers tair blynedd ar ddeg ac mae bellach yn gorporal sy'n arwain tîm sy'n gyfrifol am reoli cludo milwyr ac offer ledled y byd. Rydym yn falch o'r hyn y mae bachgen tawel a swil wedi'i gyflawni ac yn arbennig o'i rôl wrth fynd dramor i helpu i ddarparu cefnogaeth a nwyddau i’r gwledydd hynny sydd wedi cael eu taro gan drychinebau naturiol yn ogystal â  mynd i barthau rhyfel, er, diolch byth, nid yn uniongyrchol yn y rheng flaen. Rydym yn falch o fod yn rhan o gymuned yr RAF a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog.

 

Anthony Fox 
Datblygu Dysgu a Phartner Busnes, AaGIC 

 Rwy'n hynod falch o fy nhad a fu’n gwasanaethu yn y Llynges a fy mrawd sy'n gwasanaethu yn y Fyddin ar hyn o bryd.  Rwy'n falch ohonynt oherwydd eu cyflawniadau personol a'r datblygiad y maent wedi’i feithrin yn sgil bod yn rhan o gymuned glòs. Roedd bod yn rhan o'r lluoedd arfog yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn iddynt ac yn eu helpu i archwilio’u hunaniaeth. Er bod fy nhad wedi ymddeol, mae wedi mynd gam ymhellach a nawr yn gwirfoddoli gyda Help for Heroes. Mae’n parhau i fod yn gyswllt cymorth cadarn i gyn-filwyr eraill sy’n wynebu problemau iechyd meddwl difrifol. Eu cefnogaeth barhaus i eraill sydd â phroblemau iechyd meddwl, eu cefnogaeth i unigolion LHDTC+ a mwy yw'r hyn sy'n gwneud imi ymfalchïo ynddynt. 

Gall bod yn rhan o’r lluoedd arfog ddwyn popeth oddi arnoch, ac mae fy nheulu i wedi wynebu ei siâr o drawmâu ac anafiadau corfforol. Mae hyn, fel yn achos llawer o gyn-filwyr, yn ei gwneud yn anodd ymaddasu i fywyd bob dydd unwaith eto. Fe ddylen ni ad-dalu’r ddyled i’r rhai sydd wedi aberthu cymaint i wasanaethu eu gwlad, yn cynnwys cyflawni’r aberth eithaf. 

 

Helen Baker
Cyfarwyddwr Cyswllt Gofal Eilaidd, AaGIC

Mae fy ngŵr wedi bod yn feddyg yn y Fyddin ers 20 mlynedd ac rwy’n hynod falch o’r gwaith y mae ef a’i gydweithwyr yn parhau i’w wneud i gefnogi iechyd a lles milwyr a poblogaethau sifil yn y wlad hon a thramor. Yn fwy diweddar, rydym i gyd wedi gweld eu mewnbwn hollbwysig drwy gydol y pandemig yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r brechlyn a gwasanaethau rheng flaen. 

 

Sarah Harries
Cynorthwyydd Gweinyddol, Hyfforddiant Meddyg Teulu, AaGIC

Rwy'n fam hynod falch i ddau fab sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn y fyddin. Mae fy mab hynaf yn Rhingyll o fewn y Fyddin ac wedi cwblhau tair taith i Afghanistan, ei un gyntaf yn 19 oed. Ar hyn o bryd mae wedi’i leoli yn Bovington ac yn gwasanaethu gyda Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines.

Mae bod yn fam filwrol wedi teimlo'n unig ar adegau a gall fod yn frawychus iawn, yn enwedig pan fyddant i ffwrdd ar leoliad. Pan oedd fy mab hynaf yn gwasanaethu yn Afghanistan, roeddwn i’n gwylio'r newyddion yn gyson ac yn aros am alwad ganddo i roi gwybod i mi ei fod yn ddiogel. Ni all ein Lluoedd Arfog wneud eu gwaith heb gefnogaeth anhygoel eu teulu a'u ffrindiau. Penderfynodd fy mab ieuengaf y byddai hefyd yn hoffi gyrfa filwrol a dewisodd ymuno â'r Llynges Frenhinol ac ar hyn o bryd mae'n gwasanaethu ar HMS Montrose yn y dwyrain canol.

 

Jayne Spence
Rheolwr Datblygiad Dawn ac Arweinyddiaeth, AaGIC

Rwy’n hynod falch o’m gŵr a’r cyfraniad y mae wedi’i wneud i’w gatrawd yn ystod ei yrfa lawn fel Milwr ac yn ddiweddarach fel Swyddog.

Drwy gydol ei yrfa mae wedi ymgymryd â deuddeg taith weithredol, gan gynnwys Sierra Leone, Irac ac Afghanistan. Yn ystod ei yrfa, cafodd ei anafu pan gyfeiriwyd bom at ei safle yn ogystal ag achub aelodau o’i grŵp pan gawsant eu cipio yn Sierra Leone. Mae ei yrfa wedi bod yn gyffrous ac yn llawn perygl ond hefyd wedi cynnwys cyfnodau llawn hwyl. Enghraifft o hyn oedd pan aeth i ddringo yn Columbia Brydeinig ac Alberta yng Nghanada. Enillodd fy ngŵr gwobr myfyriwr rhagorol o'r Ysgol Troedfilwyr - Ysgol Frwydr Troedfilwyr Aberhonddu pan gymhwysodd fel Sarsiant a dychwelyd yn ddiweddarach i ddarparu hyfforddiant o fewn Cwrs Brwydr Penaethiaid Adran (SCBC) Swyddogion Gwarantedig Troedfilwyr. Ac yntau'n hyfforddwr milwriaeth y jyngl, darparodd hyfforddiant arbenigol i Filwyr a Swyddogion.

Mae hefyd wedi gweithio fel Swyddog Teuluoedd, i gefnogi teuluoedd pan fydd milwyr a swyddogion i ffwrdd, ac wedi ymweld â milwyr sy'n sâl neu'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn ogystal â rhoi gwybod i deuluoedd pan fydd milwyr yn marw. Mae wedi cael gyrfa lawn o fewn y lluoedd arfog ac wedi dal swyddi o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb mawr. Mae'r parch a welaf pan fyddwn yn cyfarfod â milwyr oedd o dan ei orchymyn yn amlwg, maent bob amser yn ei gyfarch fel Syr ac yn sefyll hefyd! Yr wyf yn hynod falch o'i gyflawniadau ond yn bwysicach fyth o'r dyn caredig, gofalgar a thosturiol y mae ef.