Neidio i'r prif gynnwy

Blog Gwestai: Rachel Mooney, Rheolwr Prosiect

Gan Rachel Mooney, Rheolwr Prosiect Addysg yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Rwy'n Rheolwr Prosiect Addysg, sy'n cyflawni cynllun gweithredu cenedlaethol y rhaglen endosgopi ar hyn o bryd.

Rwyf yn hanu o gefndir  darlithio ac wedi gweithio o fewn y sector addysg ers dros 30 mlynedd. Rwyf wedi dal swyddi uwch amrywiol o fewn addysg bellach, Llywodraeth Cymru, sefydliad dyfarnu a dysgu seiliedig ar waith yn y sector preifat. Yr wyf bob amser wedi bod yn angerddol am addysg a'r tirlun darparu addysgol yng Nghymru.

Rwy'n eistedd o fewn cyfarwyddiaeth Gweithwyr Nyrsio, Comisiynu Addysg ac Ansawdd a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Addysg a Gwella Cymru (AaGIC). Yn ogystal â'r rhaglen endosgopi, rwyf hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cynllun y gweithlu iechyd meddwl ac rwy'n ymgysylltu â'm harbenigedd a'm profiad wrth ddatblygu'r fframwaith llywodraethu dysgu seiliedig ar waith ar gyfer addysg (y tu allan i sefydliadau addysg uwch), ochr yn ochr â'r tîm Comisiynu ac Ansawdd. Yr wyf yn falch o allu gweithio ar draws adrannau, fel rhan o dîm ehangach, gyda rhai pobl dalentog iawn ac uchel eu parch.

Mae AaGIC yn sefydliad ifanc iawn, sy'n dal i ehangu a datblygu ei rolau a'i gylch gwaith, gan ddylanwadu ar gyfeiriad addysg a'r gweithlu er budd pob unigolyn, naill ai'n gweithio o fewn y gwasanaeth, neu'n dibynnu ar y gwasanaeth yn GIG Cymru.

Ers dechrau ganol mis Chwefror 2020, rwyf wedi profi rhai datblygiadau arloesol ac ethos tîm gwych. Mae'r sefydliad yn annog trafodaeth, rhannu syniadau ac arloesedd i ddatrys problemau.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu dull sector blaenllaw, canolog a chyfannol o hyfforddi'r holl rolau staff yn y rhaglen endosgopi genedlaethol. Byddai hyn yn bodloni disgwyliadau'r cynllun gweithredu o ran cyflawni rhaglen safonol, effeithlon ac effeithiol, gan ddatblygu a gwella sgiliau'r gweithlu cysylltiedig.

Mae'n gyffrous iawn imi ofalu am greu gwasanaeth cynaliadwy, gan fodloni disgwyliadau gwasanaeth i ymfalchïo ynddo yng Nghymru. Gan weithio ar y cyd fel rhan o raglen draws-sefydliadol, fe'm hysbrydolwyd gan yr ethos a'r gymrodoriaeth sy'n bodoli drwy'r gwahanol rwydweithiau sefydliadol, pob un ohonom sydd â'r un dyhead ac awydd i wella profiad y defnyddiwr gwasanaeth.

Mae pob diwrnod yn gyfle dysgu. Sylweddolwch a chymhwyso eich sgiliau trosglwyddadwy a pheidiwch ag ofni rhannu eich gwybodaeth a'ch galluoedd lle credwch y byddai'n cael ei ddefnyddio orau.