Neidio i'r prif gynnwy

Blog Gwadd - Sarah Schumm, Cymrawd Clinigol, Optometreg

Roedd 2020 yn flwyddyn bwysig ar gyfer optometreg yn AaGIC.  Roedd yn dathlu blwyddyn gyntaf ei chynnwys yn y rhaglen gymrodoriaeth glinigol, ochr yn ochr â phroffesiynau gofal sylfaenol eraill, meddygol, deintyddol a fferylliaeth.  Mae dweud ein bod ni'n gyffrous am yr ychwanegiad yn orgynnil.  Rhoddwyd cymrodoriaethau i ddau optometrydd i weithio gyda AaGIC a Llywodraeth Cymru, ar brosiectau diwygio gweithlu a chontractau.

Roedd Sarah Schumm yn ddigon ffodus i fod yn un ohonyn nhw. Fe wnaethon ni ofyn iddi am ei phrofiad a dyma beth oedd ganddi i'w ddweud ...

“Rwy'n optometrydd cymunedol, wedi cymhwyso am 16 mlynedd, mae fy nghefndir yn glinigol yn unig.  Gall bod yn optometrydd fod yn broffesiwn eithaf unig.  Ydy, mae clinigau'n llawn cleifion, ond heb fawr o amser i gydweithio â chyfoedion.  Roeddwn yn awyddus i archwilio pa gyfleoedd eraill oedd ar gael imi y tu allan i'm hystafell brofi chwe-wrth-bedwar metr.  Mae'r gymrodoriaeth yn sicr wedi cyflawni.  Rwyf wedi darganfod byd nad oedd gennyf unrhyw wybodaeth flaenorol amdano, ac er bod hwn wedi bod yn hynod gyffrous a grymusol, mae wedi tynnu sylw at fy anwybodaeth. 

Roedd y gromlin ddysgu yn serth.  Rwyf wedi arfer â thasgio a gorffen o fewn ffrâm amser bob dydd.  Roedd yna drefn lem, heb unrhyw bennau rhydd.  Roedd cael y strwythur hwnnw yn gysur, yn glir ac yn dwt.  Yn hollol gyferbyniol â'r hyn y gwnes i gychwyn arno gyda'r gymrodoriaeth!  Do, mi wnes i osod targedau ac amserlenni i mi fy hun, ond doeddwn i ddim wedi arfer dibynnu ar eraill i'w cwrdd.  Cymerodd beth amser i ddygymod â hyn, ond mae'r gefnogaeth a'r ymgysylltiad a gefais gan bawb wedi bod yn ysgubol.  Hoffwn fynegi fy niolch i'm goruchwyliwr, Nik Sheen, sydd wedi bod yn amyneddgar iawn gyda mi, gan ganiatáu imi ddod o hyd i'm traed, wrth fy arwain a'm hannog.  Rydw i a Tim, fy ‘nghydymaith', wedi achub ar y cyfle i archwilio pob rhodfa, waeth pa mor aneglur, ac wedi mwynhau'r moethusrwydd y mae'r gymrodoriaeth hon wedi'i gynnig inni yn fawr. 

Fy mhrosiect yw cyflwyno strategaeth gweithlu ar gyfer optometreg am nawr a'r dyfodol.  Mae wedi bod yn heriol a dweud y lleiaf gan na cheisiwyd gwneud dim byd tebyg o'r blaen.  Rydyn ni'n weithlu sy'n cynyddu mewn cydnabyddiaeth am y gwasanaethau gofal iechyd rydyn ni'n eu darparu.  Mae llawer o'n gweithlu'n uwchsgilio'n gyson, yn cymryd cyrsiau ôl-raddedig ac yn ennill cymwysterau ychwanegol i helpu i leddfu'r baich ar ofal eilaidd.  Rydym yn cael ein defnyddio llawer mwy gan feddygon teulu ar gyfer ymchwiliadau pellach, a chan fferyllwyr ar gyfer cwynion ar flaen y llygaid.  Fy swydd eleni yw sicrhau bod gennym y gweithlu priodol i ddarparu'r gwasanaethau hyn ledled Cymru gyfan, er mwyn sicrhau tegwch i bawb, nid yn unig nawr, ond wrth symud ymlaen i'r dyfodol.  Rydym yn boblogaeth sy'n heneiddio, gyda llawer o gyflyrau llygaid yn gwaethygu gydag oedran.  Mae angen i ni barhau i ddarparu'r gofal uwch sy'n ofynnol i gynnal golwg y boblogaeth.  

Un maes arall yr wyf yn awyddus i'w archwilio ymhellach yw codi ymwybyddiaeth a phwysigrwydd optometreg, nid yn unig i ddarparwyr gofal iechyd eraill a'r cyhoedd, ond o fewn optometreg ei hun.  Yn ystod pum mis cyntaf y gymrodoriaeth hon, rwyf wedi dysgu cymaint am y proffesiwn yr wyf wedi treulio'r 16 mlynedd diwethaf ynddo.  Heb y cyfle hwn, efallai na fyddwn erioed wedi ei ddarganfod.  Hoffwn i ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) gael ei ddarparu ac ar gael inni fel y mae'n broffesiynau gofal sylfaenol eraill, i gynnwys myfyrdodau a chyfleoedd ar gyfer dysgu a hyrwyddo amgen.  Mae cymaint o ffyrdd y gall pobl yn y proffesiwn uwchsgilio eu hunain, nid ydyn nhw'n ymwybodol ohono.  Yn draddodiadol, rydyn ni ond wedi cyflwyno archwiliadau llygaid.  Fodd bynnag, rydym mewn sefyllfa i gynnig cymaint mwy.  Bydd AaGIC yn allweddol i gyflwyno'r neges hon ac edrychaf ymlaen at y mewnbwn a'r adnoddau a fydd ar gael.  Rydym yn broffesiwn sydd am gael ei ddefnyddio.  Mae ein hymateb yn ystod Covid-19 wedi tynnu sylw at hyn gan ein hangen i barhau i aros ar agor i gynnal archwiliadau llygaid trwy gydol y pandemig cyfan, a gwirfoddoli ar unwaith i helpu gyda'r rhaglen frechu.

Rwy'n edrych ymlaen at weddill blwyddyn fy nghymrodoriaeth, fy unig gŵyn yw fy mod yn dymuno iddi fod yn hirach! ”

 

Am wybodaeth bellach, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cysylltu â chymrawd, e- bostiwch heiw@wales.nhs.uk neu dilynwch y cymrodyr ar Twitter @WelshFellows