Neidio i'r prif gynnwy

Bellach gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru gwblhau DPP trwy gyfrwng y Gymraeg

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru nawr ddewis cwblhau eu hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio dros 40 o fodiwlau DPP ar-lein am ddim yn Gymraeg, gan gwmpasu ystod eang o bynciau clinigol ac anghlinigol.

Dywedodd Huw Owen, Rheolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg yn AaGIC: “Mae llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn hyfforddi, yn dysgu ac yn gweithio’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cydnabyddiaeth gynyddol o'r ffaith bod gallu gofalu am gleifion yn ddwyieithog, trwy eu dewis iaith, wedi profi buddion clinigol.

Yn hynny o beth, mae'n hynod bwysig bod gan weithwyr iechyd proffesiynol yr opsiwn i ymgymryd â'u DPP yn yr iaith o'u dewis - yr iaith maen nhw'n gweithio ynddi, a'r iaith mae nhw'n byw canran fwyaf o’u bywyd ynddi.”

Wedi'i gynllunio i ddechrau ar gyfer meddygon teulu, mae'r nifer cynyddol o fodiwlau bellach yn ymdrin ag ystod eang o bynciau sydd hefyd o ddiddordeb i ddeintyddion, fferyllwyr a'r cymunedau gofal sylfaenol ac eilaidd ehangach. Derbyniodd fersiynau Saesneg y modiwlau dros 76,000 o ymweliadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Dr Chris Price, Pennaeth yr Uned Cymorth Ailddilysu yn AaGIC yn esbonio mai ei brofiad ei hun fel meddyg teulu a'i ysgogodd i ddechrau datblygu'r modiwlau ar-lein: “Fel meddyg teulu prysur rwy’n gweld bod llawer o fy nysgu bellach yn y fformat digidol a daeth y syniad o greu’r modiwlau ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru yn hawdd o hynny.

“Mae gennym gyfle i dynnu sylw at a chyfeirio gwasanaethau sydd ar gael i bobl Cymru, yn seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol. Mae llawer o'n modiwlau bellach yn apelio at y teulu gofal sylfaenol ehangach a gobeithio bod pobl yn dod o hyd i rywbeth o ddiddordeb yno, p'un a ydyn nhw'n dewis cwblhau'r modiwlau yn Saesneg neu, nawr, yn Gymraeg. "

I weld a chwblhau'r modiwlau DPP ewch i https://gpcpd.heiw.wales/cy/hafan/