Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg o Weithlu Fferylliaeth Gymunedol Cymru

Mae'r adroddiad hwn gan y Ddeoniaeth Fferyllol o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn darparu'r data cyntaf a gyhoeddwyd am y gweithlu fferylliaeth gymunedol yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn gam pwysig i AaGIC ddatblygu dealltwriaeth lawn o nifer a chymysgedd sgiliau'r holl weithlu fferylliaeth yng Nghymru. Bydd hyn yn ei dro yn galluogi AaGIC i lywio cynllunio strategol gwell, buddsoddi mewn addysg a chymorth i'r gweithlu fferylliaeth cyfan.

Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi ffynhonnell data o ddiddordeb i gynllunwyr gweithlu byrddau iechyd a chomisiynwyr gofal sylfaenol wrth iddynt ddatblygu gwasanaethau clinigol yn agosach at gartrefi pobl fel y nodir yng nghynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach'.

Ni fyddai'r arolwg wedi bod yn bosibl heb gyfranogiad gan staff ar draws fferyllfeydd cymunedol a'u cydweithwyr mewn rolau cymorth busnes – rydym yn ddiolchgar iawn i chi i gyd am gymryd rhan.