Neidio i'r prif gynnwy

Agenda ar gyfer cynhwysiant digidol

HEIW yn cefnogi’r Agenda ar gyfer cynhwysiant digidol a gyhoeddwyd gan Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (DIAW). A ninnau’n aelod o’r Gynghrair, credwn fod mynd i’r afael ag allgáu digidol yn hanfodol ar gyfer cymdeithas gyfiawn a chyfartal, ac mae’n gofyn am ymyrraeth, adnoddau a blaenoriaethu cyson.

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (DIAW) yn grŵp ymbarél o sefydliadau sydd wedi ymrwymo I gymryd camau ar y cyd i newid yn sylweddol yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru. Mae angen dybryd i’r cyfrifoldeb dros gynhwysiant digidol gael ei amlygu fel blaenoriaeth i bob sefydliad sy’n gweithio gyda’r cyhoedd drwy sianeli digidol.

Meddai Sian Richards, Cyfarwyddwr Datblygu Digidol AaGIC "Rydym yn falch o gefnogi'r gwaith hwn sydd wedi'i gynhyrchu gan Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru (DIAW).  Byddwn yn parhau i weithio gyda'r gynghrair, adolygu'r ddogfen ac ystyried sut rydym yn ei hadeiladu yn ein cynllun mewn perthynas â datblygu a gweithredu fframwaith gallu digidol ar gyfer y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru."

Mae’r Agenda yn amlygu pum maes yr hoffem iddynt gael eu blaenoriaethu yn ystod y pum mlynedd nesaf fel bod pawb yng Nghymru sydd angen ac eisiau cael mynediad at y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol, ac elwa ohonynt, yn gallu gwneud hynny:

  1. Ymsefydlu cynhwysiant digidol ym mhob sector
  2. Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  3. Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
  4. Blaenoriaethu sgiliau digidol yn yr economi ar ôl Covid
  5. Gosod isafswm safon byw digidol newydd