Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Rhaglen Drawsnewid proffesiynau perthynol i iechyd (AHP)

Mae'r Rhaglen AHP wedi rhyddhau ei Adroddiad Blynyddol cyntaf sy'n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed gan y rhaglen yn ystod ei blwyddyn gyntaf, ynghyd â'r gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd wrth i'r tîm ddelio â newidiadau.

Yn y crynodeb Gweithredol, mae Cadeiryddion y rhaglen Claire Madsen a Lisa Llewelyn yn myfyrio ar gynnydd y rhaglen hyd yn hyn:

"Mae'r fframwaith yn gosod rhai uchelgeisiau ar gyfer y proffesiynau perthynol i iechyd, a fydd yn trawsnewid y ffordd y mae staff yn gweithio, y mannau lle mae pobl yn cael gofal gan AHP, a strwythur hyfforddiant i greu gwasanaethau sy’n fynnu gan ddarparu gwerth uchel i'r bobl sy'n dibynnu arnynt."

“Hoffem ddiolch i bawb sy'n rhan o'r rhaglen, yn enwedig ein cydweithwyr yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) am eu cefnogaeth a'u hanogaeth barod, ac edrychwn ymlaen at ein cydweithrediad yn y dyfodol y wrth wireddu'r Fframwaith Edrych Ymlaen Gyda'n Gilydd.”

Wrth edrych ymlaen at 2022—2023 mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y blaenoriaethau y bydd y rhaglen yn canolbwyntio arnynt, gan gynnwys datblygu ffrydiau gwaith a recriwtio cyfarwyddwr newydd.

Mae'r adroddiad ar gael i chi ei ddarllen yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.