Yn y Fforwm Addysg Rhyngbroffesiynol Cenedlaethol a gynhaliwyd gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd y mis diwethaf, archwiliodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) sut y gall addysg ryngbroffesiynol gyfoethogi teithiau dysgu myfyrwyr. Canolbwyntiodd y drafodaeth hefyd ar sut y gellir ymgorffori addysg ryngbroffesiynol yn ystyrlon mewn addysg ac ymarfer.
Croesawodd y digwyddiad nifer o aelodau o'r Ganolfan ar gyfer Hyrwyddo Addysg Ryngbroffesiynol (CAIPE), y sefydliad blaenllaw yn y DU ar gyfer Addysg Ryngbroffesiynol ac Ymarfer Cydweithredol.
Mae CAIPE yn disgrifio addysg ryngbroffesiynol fel rhywbeth sy'n digwydd “pan fydd dau broffesiwn neu fwy yn dysgu gyda'i gilydd, oddi wrth ei gilydd ac am ei gilydd i wella cydweithio ac ansawdd gofal.”
Mae codi ymwybyddiaeth ac ymgorffori addysg ryngbroffesiynol yn helpu myfyrwyr i ehangu eu sgiliau a deall sut mae cydweithio rhwng proffesiynau yn arwain at ofal mwy effeithiol a chydgysylltiedig. Yn y pen draw, mae hyn yn gwella canlyniadau cleifion ac yn cefnogi diwylliant gofal iechyd mwy diogel a thosturiol.
Dangosodd gyfraniad AaGIC y ffaith bod dysgu myfyrwyr yn cael yr effaith fwyaf pan fydd addysgwyr a goruchwylwyr yn eu cefnogi'n weithredol i ddysgu gyda, gan, ac am y gweithwyr proffesiynol eraill y maent yn gweithio ochr yn ochr â nhw. Un peth allweddol i gofio yw nad yw dysgu rhyngbroffesiynol yn digwydd yn awtomatig wrth i weithwyr proffesiynol weithio gyda'i gilydd, mae angen arweiniad a hwyluso bwrpasol.
Mae effaith addysg a dysgu rhyngbroffesiynol yn cyd-fynd â ffocws strategol AaGIC ar wella darpariaeth gofal trwy addysg a hyfforddiant. Mae'n cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol fel Cymru Iachach, sy'n hyrwyddo gofal integredig sy'n canolbwyntio ar y person. Mae dysgu rhyngbroffesiynol hefyd yn cryfhau dealltwriaeth o ddulliau cyfannol ac yn paratoi myfyrwyr i weithio'n hyderus ar draws ffiniau proffesiynol.
Dywedodd Simon Cassidy, Pennaeth Profiad a Gwella Lleoliadau yn AaGIC:
“Mae amlygiad i weithio rhyngbroffesiynol yn helpu myfyrwyr a hyfforddeion i baratoi ar gyfer cofrestru proffesiynol. Mae'n cefnogi datblygiad gwerthoedd ac ymddygiadau allweddol, yn meithrin sgiliau arweinyddiaeth dosturiol, ac yn gwella dealltwriaeth o sut mae gweithio ar draws proffesiynau yn cefnogi gofal cydgysylltiedig a diwylliant o arfer diogel."