Neidio i'r prif gynnwy

Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol newydd ar gyfer Fferyllwyr

Bydd tîm fferylliaeth AaGIC yn cynnal rhaglen bontio i ddiwallu holl anghenion y safonau Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol newydd ar gyfer Fferyllwyr. Bydd rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys cynnig 'cyfnod dysgu estynedig' ar gyfer blynyddoedd cymwys cyntaf y gweithlu fferyllwyr cofrestredig sy'n datblygu, ar draws pob sector fferylliaeth, rhwng 2022-2025.

Rydym wedi datblygu arolwg ar-lein i gael adborth gan fyfyrwyr israddedig fferylliaeth blwyddyn 3 a 4, fferyllwyr gyrfa gynnar (hyd at dair blynedd wedi'u cofrestru) a'r holl randdeiliaid a chyflogwr priodol yng Nghymru, ar wahanol elfennau rhaglen 'ymarfer gyrfa gynnar' AaGIC a model darparu arfaethedig, i ddechrau ym mis Awst 2022.

Dylai'r arolwg hwn gymryd tua 15 munud i'w gwblhau.

Dyddiad cau ar gyfer cwblhau: Dydd Gwener 16 Ebrill 2021.

Diolch yn fawr am eich amser.