Neidio i'r prif gynnwy

Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn lansio offeryn i helpu timau deintyddol i wneud y gorau o'u sgiliau

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio offeryn i helpu practisau deintyddol i wneud y gorau o ddefnyddio holl sgiliau eu haelodau tîm o ran darparu gofal o ansawdd uchel yn effeithiol.

Mae'r Offeryn Hunanwerthuso Optimeiddio Sgiliau (SOSET), a ddatblygwyd ar y cyd ag Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwil a Gwerthuso mewn Addysg Feddygol a Meddygol (CUREMeDE), yn annog timau deintyddol, gan gynnwys deintyddion a gweithwyr proffesiynol deintyddol (GPD/DCP), i roi gwaith tîm ar flaen y gad o'u hymagwedd tuag at ddarparu gofal iechyd geneuol effeithiol.

Derbynnir yn gyffredinol bod practisau deintyddol yn perfformio'n fwy effeithiol pan fydd pawb yn gweithio fel tîm ac yn teimlo y gallant drafod materion yn adeiladol. Mae SOSET yn caniatau i bawb yn yr ymarfer feddwl am eu rôl wrth ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf.

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai GPDau ymgymryd â chymaint â 73% o driniaeth mewn practisau deintyddol cyffredinol - nyrsys deintyddol, hylendidwyr, therapyddion a thechnegwyr – byddai’n rhyddhau amser deintyddion i ddarparu gofal uwch i gleifion ag anghenion mwy cymhleth.

SOSET
Kathryn Marshall yn darparu SOSET

Wedi'i hwyluso gan Addysgydd Gwella Ansawdd AaGIC a thrwy gynnwys y tîm cyfan, gall practisau deintyddol ddefnyddio SOSET i greu cynllun gweithredu o flaenoriaethau, ac i ddirprwyo cyfrifoldebau rhwng holl aelodau'r tîm. Mae'r offeryn hefyd yn annog cyrhaeddiad nodau, gwell cyfathrebu, a gall helpu timau i ddod o hyd i fylchau lle gellir gwneud gwelliannau.

Ers defnyddio'r offeryn yn ei phractis deintyddol yn Aberdâr, dywed Dr Parul Sood bod ei thîm o GPDau bellach yn edrych ymlaen at ddatblygu eu rolau ymhellach a chymryd mwy o gyfrifoldeb ynglŷn â gofal cleifion.

Ychwanegodd Dr Sood: "Mae'r staff nawr yn sylweddoli'n well y pwysigrwydd o waith tîm, ac maent wedi bod yn gweithio'n fwy effeithlon o ganlyniad.

"Mae'r tîm hefyd wedi cael gwell dealltwriaeth o sut y gallai dyfodol deintyddiaeth y GIG edrych, a pha rolau y gallant eu cymryd fel nyrsys deintyddol. Maent yn sylweddoli bod gan y rheolwyr ymarfer ddiddordeb yn eu datblygiad, ac maent yn gyffrous iawn i ddysgu sgiliau newydd.

"Byddwn yn argymell bod practisau deintyddol eraill ledled Cymru yn defnyddio SOSET er mwyn adnabod a defnyddio medrau eu staff hyd eithaf eu gallu.

"Mae ymagwedd SOSET o ddirprwyo a chynyddu sgiliau yn y tîm yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal iechyd darbodus, gan roi mwy o amser i gleifion weld y deintydd priodol neu'r GPD.

Eglurodd Kathryn Marshall, Addysgydd Gwella Ansawdd yn AaGIC: "Mae sicrhau bod aelodau'r tîm deintyddol (heblaw deintyddion) yn gallu gweithio i'w lefel sgiliau uchaf yn rhyddhau gallu clinigol mewn mannau eraill yn y tîm.

"Bydd gan ymarferwyr deintyddol fwy o amser ac argaeledd i wella mynediad cleifion i anghenion triniaeth eraill megis adferol, endodonteg a deintyddiaeth bediatrig.

"Bydd cleifion yn elwa o brofi cam i fyny mewn atal, gan ddefnyddio gwasanaeth deintyddol sy'n addas i'r pwrpas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a gofal gan dîm deintyddol medrus ac ysgogol."

DIWEDD

 

Nodiadau i'r Golygydd:

  • Wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, mae gweithwyr proffesiynol deintyddol (GPD/DCP) yn cynnwys: nyrsys deintyddol, technegwyr deintyddol clinigol, hylendidwyr deintyddol, technegwyr deintyddol, therapyddion deintyddol a therapyddion orthodonteg.
  • I gael rhagor o wybodaeth neu i gael mynediad at y ffurflen gais Offeryn Hunanwerthuso Optimeiddio Sgiliau (SOSET), ewch i: https://bit.ly/2AEItGV
  • Mae datblygiad SOSET yn cefnogi amcanion Gofal Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal iechyd effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf.
  • Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC / HEIW) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd trwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd at ei gilydd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu'r Gweithlu GIG Cymru (WEDS); a Chanolfan Addysg Broffesiynol Fferyllol Cymru (WCPPE). Yn eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu'r gweithlu a moderneiddio, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio gweithlu strategol, deallgarwch y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn https://heiw.nhs.wales/