Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn noddi'r wobr gweithio ddoethach yn HPMA eleni

Healthcare People Management Association awards logo

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o fod yn noddi gwobr yng ngwobrau ‘Healthcare People Management Association’ (HPMA) y DU eleni.

Nod Gwobr AaGIC am Weithio Doethach yw arddangos prosiectau, rhaglenni neu fentrau sy'n dangos sut mae timau gweithlu wedi gweithio'n 'ddoethach' i arbed arian wrth wella ansawdd, diogelwch a gofal cleifion o hyd.

Hon fydd trydedd flwyddyn AaGIC fel noddwr ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn sy'n cydnabod ac yn dathlu gwaith gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol, datblygu sefydliadol a gweithlu ledled y DU.

Ochr yn ochr â noddi gwobr, bydd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol AaGIC a Chyfarwyddwr y Gweithlu a DS, Julie Rogers, hefyd yn cymryd rhan fel barnwr a siaradwr yn y seremoni. 

Wrth gyhoeddi nawdd AaGIC, dywedodd, “Fel sefydliad lle mae’r genhadaeth yn un sy’n trawsnewid y gweithlu gofal iechyd, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw arferion gwaith craff.

“Mae COVID-19 wedi gofyn i ni i gyd feddwl y tu allan i’r bocs a chreu ffyrdd newydd, arloesol ac effeithlon o weithio.

“Edrychaf ymlaen at weld y ffyrdd dychmygus y mae timau ledled y DU wedi ymateb i'r her hon.”

Mae'r cyflwyniadau ar gyfer ceisiadau bellach ar agor a byddant yn cau ddydd Mawrth 25 Mai 2021. Cyhoeddir enillwyr yn y seremoni wobrwyo rithwir a gynhelir ar 7 Hydref 2021.

Am fanylion pellach, gan gynnwys meini prawf mynediad a chyfarwyddiadau cyflwyno, ewch i wefan HPMA.