Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn noddi gwobrau arweinyddiaeth a thrawsnewid

Advancing Healthcare Welsh Awards logo

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o gael noddi dau gategori yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru  (AHA) 2021.

Mae'r AHA yn rhoi cyfle i gydnabod a dathlu gwaith pwysfawr ac arloesol gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHP) ledled Cymru.

Mae'r wobr gyntaf y mae AaGIC yn ei noddi, ar gyfer arweinyddiaeth a rheoli newid, yn ceisio cydnabod arweinwyr ysbrydoledig sydd wedi ymgryfhau a thrawsnewid lles ac ymgysylltiad y gweithlu trwy fynegi newidiadau cadarnhaol mewn staff. Mae'r ail, ar gyfer prosiect myfyriwr rhagorol sy'n helpu Cymru i gyd-symud yn ei blaen, â’r nod o gydnabod prosiect gan fyfyriwr gwyddor gofal iechyd neu fyfyriwr AHP (israddedig neu feistr) sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Nyrsio Dros Dro, Angela Parry, “Mae Gwyddonwyr Gofal Iechyd a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn gonglfaen iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Rydyn ni'n hynod falch o gael noddi'r ddwy wobr hon sy'n arddangos y cyfraniad pwysig ac amhrisiadwy maen nhw'n ei wneud ddydd ar ôl dydd i bobl Cymru."

Mae'r cyflwyniadau ar gyfer ceisiadau bellach yn agored a chânt eu cau ddydd Gwener, 10 Medi 2021. Cyhoeddir enillwyr yn y seremoni wobrwyo rithwir a gynhelir ddydd Gwener, 26 Tachwedd 2021.

Os hoffech wybod mwy ynglŷn â’r gwobrau, gweld y categorïau a gynigir, neu gyflwyno enwebiad, ewch i wefan AHA - https://ahawards.co.uk/wales/.