Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn lansio modiwlau DPP newydd - Dychwelyd at Fodiwlau Arfarnu ac Arfarnu Rhithwir

Gall feddygon bellach gael mynediad i ddau fodiwl newydd sy'n rhoi arweiniad ar Ddychwelyd i Arfarnu a sut i gynnal Arfarniadau Rhithwir.

Mae'r modiwlau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a lansiwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) mewn cydweithrediad ag Arfarnwyr o ofal Sylfaenol ac Uwchradd yn rhoi canllawiau ar sut y gellir cynnal dychwelyd i arfarniad meddygol yn ystyriol ac yn effeithiol gan ganolbwyntio ar les a chymorth. 

Dywedodd Dr Rob Morgan, Arfarnwr Meddyg Teulu ac Is-gadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredin: "Mae'r chwe mis diwethaf wedi dod â heriau diamheuol i feddygon teulu, nid yn unig yn unigol ond hefyd ar lefel ymarfer a thîm ehangach. Bydd ailgyflwyno arfarnu yn rhoi cyfle, efallai am y tro cyntaf, i drafod yr heriau hyn gyda chyfoedion cefnogol. Bydd y modiwlau eu hunain yn cynnig sicrwydd i natur gefnogol yr arfarniad yn dilyn y cyfnod hwn. Maent hefyd yn rhoi enghreifftiau o ddysgu sydd wedi digwydd yn ystod y 6 mis diwethaf a sut mae hyn yn cyd-fynd yn hawdd â'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer arfarnu ac ailddilysu".

Dywedodd Phil Matthews, Cyfarwyddwr Addysg Practis Cyffredinol: "Bydd y modiwlau ar-lein arloesol hyn yn cefnogi meddygon gyda'r adnoddau DPP sydd eu hangen i ddarparu arfarniad, gan roi cyfle i fyfyrio ar arferion a pherfformiad unigol yn y cyfnod digynsail hwn"

I gael rhagor o wybodaeth am y canllawiau ewch i https://gpcpd.heiw.wales