Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn lansio modiwl iechyd meddwl newydd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol bellach gael mynediad at fodiwl Iechyd Meddwl COVID-19 ar-lein. Mae'r modiwl, a lansiwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac a ysgrifennwyd gan Dr Mary Robathan, un o Arfarnwyr Meddygon Teulu, yn darparu rhywbeth i gnoi cil ar sut y bydd y pandemig yn effeithio ar gleifion â phroblemau iechyd meddwl a sut i adnabod cleifion newydd. Fe'i rhyddhawyd mewn pryd ar gyfer wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl 2020.

Bu pryderon gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â'r gostyngiad yn nifer y cysylltiadau â chleifion ynghylch salwch nad yw'n gysylltiedig â COVID-19 a'r effaith ganlyniadol y gallai'r achosion hyn ei chael ar iechyd cyffredinol y boblogaeth sydd â chlefyd cronig a chyflwyniadau acíwt. Mae'r effaith y bydd COVID-19 yn ei chael ar iechyd meddwl pob person ar y blaned yn enfawr a bydd y cynnydd posibl yn y llwyth gwaith ar gyfer gofal sylfaenol yn enfawr. Mae'r modiwl hwn yn hyrwyddo ymateb rhagweithiol sy'n chwilio am faterion iechyd meddwl mewn ymgynghoriad arferol.

Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar anghenion seicolegol cleifion a sut y gellir eu cefnogi ymhellach yn ogystal â chydnabod yr effaith y bydd y pandemig wedi'i chael ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r angen am hunanofal.

Dim ond amser a fydd yn datgelu'r cynnydd gwirioneddol mewn cyflwyniadau iechyd meddwl ac atgyfeiriadau o ganlyniad i'r pandemig. Bydd hwn yn ddarlun sy'n esblygu.

Dywedodd Dr Mary Robathan "Mae COVID-19 wedi dod â chymaint o heriau newydd i feddygon teulu gyda llawer mwy i ddod o hyd. Bydd effaith y pandemig hwn ar iechyd meddwl y cenhedloedd yn enfawr ac yn barhaus. Rydym wedi cael ein rhybuddio am 'tswnami' cleifion iechyd meddwl a gobeithiwn y bydd y modiwl hwn yn helpu mewn rhyw ffordd i ddechrau mynd i'r afael â'r llwyth gwaith".

Dywedodd yr Athro Phil Matthews, Cyfarwyddwr Ymarfer Cyffredinol: "Rydym wedi parhau i weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid ledled Cymru, i ddarparu adnoddau dysgu amserol perthnasol i'n gweithlu. Rydym yn falch o'r gyfres o fodiwlau e-ddysgu DPP, y mae ein platfform yn darparu, ac rydym yn eich annog i'w defnyddio i gefnogi ein cleifion yng Nghymru yn y pen draw".

 

Darganfyddwch mwy am y modiwl Iechyd Meddwl yn ystod COVID-19 ar-lein newydd.