Mewn ymateb i Gynllun Cyflawni Genomeg Cymru, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Phartneriaeth Genomeg Cymru (GPW) yn falch iawn o fod yn lansio'r cynllun gweithlu strategol ar gyfer Genomeg mewn digwyddiad yn Stadiwm Dinas Abertawe ar 15 Tachwedd 2024.
Bydd genomeg yn chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol gan ein helpu i ddeall mwy am salwch a chlefydau, gyda’r gallu i ddatblygu dulliau wedi'u targedu at driniaeth a rheoli cleifion.
Un o brif ysgogwyr y gwaith o ddatblygu'r cynllun yw sicrhau bod gennym weithlu arbenigol cadarn ynghyd â seilwaith sy'n gallu ymateb i'r gofynion a nodir yn rhaglenni cyflenwi cenedlaethol (DU) a Chymreig yn ogystal â gweithlu ehangach gyda digon o 'lythrennedd genomig' i sicrhau y gellir prif ffrydio genomeg yn effeithiol i ddarparu gwasanaethau.
Yn ystod Wythnos Llythrennedd Genomeg (11 – 15 Tachwedd), mae AaGIC hefyd wedi cynnal gweminar ffarmacogenomeg byw, wedi hyrwyddo ein modiwlau eDdysgu genomeg y gellir eu cyrchu trwy Y Tŷ Dysgu, a'n modiwlau MSc 20 credyd a ariennir gennym ar gyfer staff GIG Cymru. Darperir rhain drwy Brifysgolion Caerdydd a Bangor, gan gwmpasu meysydd hanfodol fel clefydau a etifeddwyd, diagnosteg canser, biowybodeg a ffarmacogenomeg.
Mae'r camau hyn yn hanfodol ar gyfer cyflawni nodau cynlluniau cyflawni genomig Cymru a'r DU, gan sefydlu GIG Cymru fel arweinydd mewn gofal iechyd sy'n seiliedig ar genomeg.
Am fwy o fanylion neu i wneud cais, ewch i Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, neu dudalen we Genomeg AaGIC.
Beth yw genomeg?
Genomeg yw astudiaeth y genom - y DNA sy'n cynnwys y cyfarwyddiadau ar gyfer sut mae ein cyrff yn tyfu, datblygu a gweithredu. Mae genyn yn rhan fer o DNA sy'n dweud wrth y corff sut i wneud protein sydd ei angen ar ein corff.
Gall gwahaniaethau yn ein genom achosi cyflyrau genetig, neu effeithio ar ein siawns o ddatblygu afiechydon. Maen nhw'n newid y ffordd rydyn ni'n ymateb i feddyginiaeth ac yn dylanwadu ar bob agwedd o'n hiechyd. Mewn clefyd heintus, bydd gwahaniaethau yn y genom yn effeithio ar ba mor hawdd y gall organeb ledaenu ac a fydd gwrthfiotigau ac asiantau eraill yn effeithio arno.
"Ond dw i ddim yn gweithio mewn genomeg?" Does dim ots.
Mae datblygiadau cyflym wrth astudio'r genom dynol yn darparu cyfleoedd enfawr i ofal iechyd, waeth beth yw eich maes ymarfer clinigol. Ni ellir gwireddu'r budd sylweddol hwn i gleifion yn GIG Cymru heb uwchsgilio pawb sy'n rhan o'n gweithlu gofal iechyd i alluogi integreiddio mwy o genomeg i lwybrau cleifion.
Am fwy o wybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn, ewch i'n tudalen we Genomeg.