Gwahoddwyd Deon Deintyddol Ôl-raddedig Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Kirstie Moons, ynghyd â Chymrodyr Clinigol Arweinyddiaeth Cymru, Alex Rawlins a Hannah Son, i annerch seminar ddiweddaraf Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) am Arweinyddiaeth Cymru mewn Deintyddiaeth. Cynhaliwyd y seminar yng Nghaerdydd, yn gynharach y mis hwn.
Y pwrpas oedd codi ymwybyddiaeth a thrafod y pwysigrwydd a'r angen am arweinyddiaeth gadarn ar draws deintyddiaeth ar bob lefel, yng Nghymru.
Mae arweinyddiaeth dosturiol effeithiol ac o ansawdd uchel mewn gofal iechyd, gan gynnwys deintyddiaeth, yn hanfodol ar gyfer darparu gofal diogel, o ansawdd ac i gadw staff gwerthfawr.
Soniodd y siaradwyr am arwyddocâd arweinyddiaeth dosturiol lle anogir gweithwyr proffesiynol i fanteisio ar y cyfle am rolau arweiniol tra'n rhoi llais i'r proffesiwn cyfan. Soniwyd yn enwedig am leisiau aelodau'r tîm heblaw'r deintydd, gan efallai na fydd y rhain yn cael eu clywed yn rhwydd. Rhoddodd arweinwyr practisau deintyddol gyflwyniad am sut maen nhw’n arwain eu practisau ac yn grymuso aelodau'u tîm i arwain ar y cyd. Yn ogystal, maen nhw’n cyfrannu'n effeithiol at gynnal y practis a darparu gofal i gleifion.
Mae angen i weithwyr deintyddol proffesiynol feithrin y sgiliau a'r cymwyseddau sy'n angenrheidiol i allu arwain tîm deintyddol. Blaenoriaeth yw ansawdd a diogelwch gofal, ac mae gan bob aelod o'r tîm amcanion clir ac eglurder am eu rolau a'u cyfrifoldebau.
Mae sgiliau arwain gweladwy yn bwysig i bob aelod o'r tîm. Bydd hyn yn cynyddu wrth i'r proffesiwn deintyddol symud tuag at fodel gofal amlddisgyblaethol, gan ddefnyddio cyfuniad o sgiliau ac ehangu'r defnydd o wahanol rolau o fewn y tîm.
Siaradodd Alex Rawlins am ddatblygiad nyrsys deintyddol fel arweinwyr mewn timau deintyddol a sut y gall aelodau eraill o'r tîm, yn enwedig deintyddion, annog a hwyluso hyn.
Cafwyd galwad i weithredu trwy:
Dywedodd Kirstie Moons, AaGIC) Deon Deintyddol Ôl-raddedig:
"Mae angen arweiniad ar dimau deintyddol, ymdeimlad o bwrpas ac ymdeimlad eu bod yn cael eu gwerthfawrogi os ydyn nhw am lwyddo i barhau i gefnogi ei gilydd, datblygu gwasanaethau a darparu gofal o ansawdd uchel i'w cleifion."