Enillodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y ‘Wobr Ymgysylltu ac Effaith ar gyfer Iechyd a Lles’ yng Ngwobrau Ymgysylltu ac Effaith Prifysgol De Cymru, a gynhaliwyd fis diwethaf. Cynhaliwyd y digwyddiad i ddathlu effaith ymchwil ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth ar gymunedau yng Nghymru.
Enillodd AaGIC y wobr am ei waith gyda Phrifysgol De Cymru ar gynnwys cymwyseddau ysbrydolrwydd mewn rhaglenni nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru. Nod y gwaith hwn oedd helpu i wella darpariaeth gofal ac mae pwysigrwydd hyn wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol.
Enillwyd y wobr ar y cyd â menter gan Rygbi Cymru sy'n dathlu cydweithio a'i effaith ar gymunedau.
Cafodd Simon Cassidy (Pennaeth Profiad a Gwella Lleoliadau AaGIC), yr Athro Linda Ross (PDC), a'r Athro Jean White, cyn Brif Swyddog Nyrsio Cymru, eu henwebu ar gyfer y wobr. Roedd yr enwebiad am waith ar ychwanegu cymwyseddau ysbrydolrwydd at raglenni nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru o dan safonau EPICC (Gwella Cymhwysedd Nyrsys a Bydwragedd mewn Darparu Gofal Ysbrydol trwy Addysg Arloesol a Gofal Tosturiol). Bu Sarah Kingdom-Mills (Rheolwr Datblygu Addysg AaGIC) a Charlotte Thomas (Arweinydd Addysg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg), ochr yn ochr â Hwyluswyr Addysg Ymarfer AaGIC hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwn.
Ysbrydolrwydd yw sut mae unigolion a chymunedau'n dod o hyd i ystyr a phwrpas ac yn mynegi eu hystyr, yn cysylltu ag eraill, ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig iddynt ar hyn o bryd, a all gynnwys credoau crefyddol. Mae parchu'r safbwyntiau hyn yn hanfodol pan fydd unigolion yn derbyn gofal iechyd. Felly, mae'n hanfodol bod myfyrwyr a staff mewn rôl oruchwylio yn deall beth yw ystyr ysbrydolrwydd a sut i asesu cymwyseddau ysbrydolrwydd i helpu i wella gofal cleifion.
Dywedodd Simon Cassidy:
"Mae cydnabod anghenion ysbrydol unigolion yn hanfodol i brofiad cyffredinol o ddarparu gofal iechyd, yn enwedig pan fydd pobl yn agored i niwed neu mewn trallod. Bydd y gwaith hwn yn helpu myfyrwyr a goruchwylwyr i ddeall yn well beth yw ystyr ysbrydolrwydd a sut mae'r dysgu hwn yn sail i ddulliau cyfannol o ofalu ac ansawdd y ddarpariaeth gofal iechyd."
Fel partner allweddol yn y fenter hon ledled Ewrop, mae Cymru wedi arwain ymdrechion helaeth i wreiddio safonau ysbrydolrwydd mewn addysg nyrsio a bydwreigiaeth, gan ddod y wlad gyntaf i ofyn am asesiadau hyfforddiant a chymhwysedd ysbrydolrwydd ar gyfer myfyrwyr. Mae'r fenter wedi denu diddordeb rhyngwladol, gydag academyddion o Norwy yn ymweld yn 2023 i ddysgu o ddull Cymru.