Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC yn cefnogi dysgwyr Cymraeg yn y sector ddeintyddol

Dyn yn cael triniaeth ddeintyddol

Yn awyddus i hyrwyddo a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi partneru â Chymdeithas Ddeintyddol i gynnal ei chynhadledd flynyddol.

Yn cael ei chynnal ym mis Mehefin 2021, mae'r gynhadledd, o'r enw 'Gofal Deintyddol yn ystod y Pandemic - perspectif ein haelodau' (Dental Care during the pandemic - our members perspective) yn anelu nid yn unig at ddenu siaradwyr Cymraeg rhugl, ond hefyd y rhai sy'n dysgu'r iaith, neu, y rhai sydd â diffyg hyder yn ei defnyddio.

Er mwyn sicrhau bod y digwyddiad Cymraeg yn hygyrch i ddysgwyr, bydd AaGIC yn hwyluso cefnogaeth ychwanegol trwy drawsgrifiadau wedi'u cyfieithu o'r cyflwyniadau (ar gael ar gais), geirfa ddwyieithog o dermau deintyddol allweddol a chyfieithiad byw o eiriau ac ymadroddion allweddol trwy gydol y digwyddiad trwy'r swyddogaeth sgwrs.

Dywedodd Kirstie Moons, Deon Deintyddol Ôl-raddedig “Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi’r digwyddiad blynyddol pwysig hwn.

“Mae gweithwyr deintyddol proffesiynol Cymraeg yn hanfodol i ddarparu gofal i gleifion yn eu hiaith frodorol ac mae AaGIC wedi ymrwymo i alluogi ac annog hyn lle bynnag y bo modd.

“Mae’r Gymdeithas Ddeintyddol yn bartner allweddol wrth ein helpu i hyrwyddo’r Gymraeg i weithwyr proffesiynol deintyddol presennol a newydd.”

Cynhelir digwyddiad eleni ar 19 Mehefin 2021 a'i nod yw trafod sut y gwnaeth deintyddiaeth ymdopi a gweithredu yn ystod pandemig COVID-19 a pha newidiadau y bu'n rhaid eu gwneud o fewn yr holl wahanol ddisgyblaethau.

Gallwch ddarganfod mwy am y Gymdeithas Ddeintyddol  trwy eu gwefan.

I gael mwy o fanylion am y digwyddiad ac i gofrestru'ch lle, ewch i'r tudalennau Deintyddol ar wefan AaGIC.