Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC ar y rhestr fer yng Ngwobrau Technolegau Dysgu 2020

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar y rhestr fer yng Ngwobrau Technolegau Dysgu 2020 yng nghategori 'Trawsnewid Digidol Gorau'r DU o Raglen Hyfforddi mewn Ymateb i COVID-19', ar gyfer datblygu llwyfan arweinyddiaeth ddigidol.

Drwy gydol mis Ebrill a mis Mai eleni, cyflymodd Tîm Arweinyddiaeth AaGIC eu hagenda digidol. Gan weithio gyda thimau eraill ar draws y sefydliad, roeddent yn ceisio nodi ffyrdd y gallent greu mynediad cyflym ac o bell at addysg a hyfforddiant, gan ddiwallu'r angen ychwanegol am y gweithlu a achoswyd gan y pandemig COVID-19.

Mewn dim ond pedair wythnos, bu'r Tîm Arweinyddiaeth yn gweithio gyda'u partner, CDSM Thinqi, i ddylunio porth digidol hygyrch, dwyieithog a allai ddarparu profiadau dysgu digidol a rhithwir i fodloni gofynion ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd Emily Millar, Rheolwr y Rhaglen, a gynlluniodd yr ateb, sef y porth arweinyddiaeth gyda CDSM Thinqi "Rwyf mor falch o fod wedi bod yn rhan o'r rhaglen waith gyffrous hon.

"Roeddem yn gwybod bod gan alluoedd technegol y porth arweinyddiaeth ddigidol botensial enfawr, gan ddarparu'r dechnoleg i ddigido'r adnoddau a phrosesau allweddol yr oedd angen iddynt fod ar gael o bell i nifer fawr o ddefnyddwyr."

"Drwy'r gwaith a wneir yn gyflym, rydym nid yn unig wedi cyflawni hyn, ond rydym bellach yn parhau i ehangu a gwella'r defnydd o'r safle ar draws GIG Cymru, gan ddarparu arweinyddiaeth a diwylliannau tosturiol ar draws y system."

Dywedodd Helen Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arweinyddiaeth ac Olyniaeth yn AaGIC, "Rwy'n falch iawn o'r hyn sydd wedi'i gyflawni mewn cyfnod mor fyr ac wrth fy modd bod AaGIC wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon.

"Mae'r gwaith a wnaed gan ein tîm i ddarparu ateb technegol i'r galw a grëwyd gan COVID-19 wedi cyrraedd cynulleidfaoedd eang ac amrywiol, gydag adnoddau digidol arweinyddiaeth ac iechyd a lles yn cael eu defnyddio gan staff iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru a'r DU.

"Mae ein hateb arloesol i argyfwng byd-eang wedi ein galluogi i ddatblygu ecosystem ddysgu newydd gyffrous, sy'n gallu darparu dysgu gwell a hygyrch i weithlu gofal iechyd 24/7".

Mae'r gwaith o ddatblygu'r porth arweinyddiaeth ddigidol wedi parhau dros yr haf, gan gynnwys lansiad swyddogol 'Gwella - Porth Arweinyddiaeth AaGIC i Gymru', adnodd digidol dwyieithog sy'n darparu mynediad i ystod eang o adnoddau arwain a rheoli tosturiol. I ymweld â phorth Gwella, cliciwch yma

Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Technolegau Dysgu 2020 ar 18 Tachwedd 2020.