Neidio i'r prif gynnwy

AaGIC a Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd drawiadol ar gyfer Proffesiynau Perthynol i Iechyd yng Nghymru.

Ddydd Mawrth 5 Tachwedd, cynhaliodd tîm Proffesiwn Perthynol i Iechyd (AHP) Addysg a Gwella Iechyd Cymru ddigwyddiad cydweithredol llwyddiannus mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd. Daeth y gynhadledd, o dan y thema "Symud ymlaen gyda'n gilydd: Arloesi AHP  i Ysbrydoli Atebion y Dyfodol"  â AHPs, cyrff proffesiynol AHP , gweithwyr cymorth, uwch arweinwyr, a myfyrwyr ynghyd i ddathlu effaith a dyfodol AHPs yng Nghymru.

Roedd tîm AaGIC yn falch o groesawu ystod amrywiol o gynrychiolwyr a gymerodd ran mewn trafodaethau craff am esblygiad parhaus gwasanaethau AHP a'u rôl hanfodol wrth lunio gofal iechyd yng Nghymru. Mynychodd cynrychiolwyr, arddangoswyr a siaradwyr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys pob un o dri ar ddeg o sefydliadau GIG Cymru - byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, ac awdurdodau iechyd arbennig.

Dywedodd, Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru  "Roedd y gynhadledd hon yn llwyfan ar gyfer trafodaethau am ddyfodol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a'r rôl bwysig y maent yn ei chwarae yng Nghymru.

Roeddwn yn falch o weld gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn rhannu enghreifftiau o'r gwaith trawsnewidiol y maent yn ei wneud ac effaith eu sgiliau arbenigol. Maent wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal o'r ansawdd uchaf ac yn canolbwyntio ar feithrin arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol."

Adlewyrchwyd llwyddiant y digwyddiad yn y cydweithio cryf a gafodd ei feithrin a'r ymrwymiad cyffredin i hyrwyddo arloesedd AHP a gwella canlyniadau iechyd ledled Cymru. O'r adborth a dderbyniwyd, roedd 95% o'r ymatebwyr o'r farn bod y digwyddiad yn "dda" neu'n "dda iawn," gyda chyfradd ymateb o 50.5% o fynychwyr.

Dywedodd un o'r mynychwyr, "Roedd yn gynhadledd wirioneddol wych sydd wedi fy ysgogi i weithio'n galetach fyth ar ran fy nghleifion ac wedi tynnu sylw at ba mor falch a diolchgar ydw i i alw fy hun yn weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd."

Agorodd ein cadeiryddion, Kerrie Phipps a Nicky Thomas, y digwyddiad a chroesawodd dros 300 o fynychwyr. Roedd y digwyddiad yn llawn siaradwyr AHP, arloesiadau, rhwydweithio, sesiynau trafod, a chyflwyniadau posteri, lle cafodd y mynychwyr fewnwelediadau ar heriau allweddol AHP, megis anghydraddoldebau iechyd a chynaliadwyedd wrth ddarparu gofal iechyd.

Roedd y prif siaradwyr yn cynnwys Tom Cheesewright, Dyfodolwr Cymhwysol, a Ruth Crowder, Prif Ymgynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd , Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr ag anerchiad wedi'i recordio gan y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru. Agorodd Tom Cheesewright gyda chipolwg ar groesffordd dyfodoliaeth, gofal iechyd a thechnolegau fel AI, gan dynnu sylw at eu potensial i drawsnewid gwasanaethau AHP. Dilynodd Ruth Crowder gyda ffocws ar anghydraddoldebau iechyd yn y dyfodol, tra bod siaradwyr eraill yn archwilio rôl esblygol AHPs, arloesi, a'u heffaith ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.

 

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr AaGIC,

"Dangosodd ein cynhadledd AHP gryfder cydweithio mewn proffesiynau AHP ar draws sectorau iechyd a gofal Cymru. Trwy ddod ag arbenigwyr, gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr meddwl ynghyd, amlygodd y digwyddiad rôl hanfodol AHPs wrth lunio dyfodol gofal iechyd. Mae llwyddiant y digwyddiad hwn yn dyst i ymroddiad pawb sy'n ymwneud â gyrru arloesedd a gwella canlyniadau cleifion. Mae'n gosod sylfaen gref ar gyfer twf a datblygiad parhaus o fewn gwasanaethau AHP yng Nghymru."