Mae Uned Gymorth Ailddilysu AaGIC (RSU) a'r tîm Digidol wedi datblygu system Adborth Claf a Chydweithiwr 360 ° sydd bellach ar gael i bob meddyg yng Nghymru, gyda'r nod o fodloni gofynion ailddilysu.
Dyfarnwyd Gwobr Ymchwil Howard Tanner 2019 - IPDA Cymru - i Rebecca Chamberlain am ei hymchwil i rôl technegwyr fferylliaeth gymunedol o fewn GIG Cymru a'r cyfle sydd ganddynt i ddatblygu rôl.
Mae ‘Gwella’ y porth arweinyddiaeth ar gyfer holl staff GIG Cymru wedi’i lansio heddiw. Mae'r adnodd digidol dwyieithog ar gael drwy unrhyw ddyfais symudol ac mae'n darparu mynediad at ystod eang o adnoddau arwain a rheoli tosturiol a guradwyd o Gronfa’r Brenin, y Brifysgol Agored a chydweithwyr ar draws cenhedloedd eraill y DU.
Mae Cymru Iachach yn golygu newid yr hyn rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n gwneud pethau ledled y GIG a Gofal Cymdeithasol Cymru. Ar gyfer y cleifion a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, felly mae mwy o bwyslais ar ofyn y cwestiwn “pa ofal ydych chi yn dymuno ac ei angen”?
Pob lwc i bawb, os nad ydych yn siŵr beth yw'r cam nesaf, yna edrychwch ar yr opsiynau sydd ar gael o fewn GIG Cymru.
Mae hyfforddeion fferyllol cyn-gofrestru Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnal archwiliad bob blwyddyn fel rhan o'u rhaglen hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Fel arfer, caiff hyn ei ddathlu gyda diwrnod posteri blynyddol lle byddant yn rhannu eu gwaith gyda gweddill eu cydweithwyr a phanel o feirniaid.
"Strategaeth Law yn llaw at Iechyd Meddwl" yw strategaeth draws-lywodraethol 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a lles ar draws pob oedran. Cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Hydref 2012 yn dilyn ymgysylltu sylweddol ac ymgynghoriad ffurfiol â rhanddeiliaid, ac mae wedi cael ei chefnogi gan gyfres o gynlluniau cyflawni manwl.
Fel y gwyddoch efallai, mae dathliadau Pride eleni yn symud i fod ar-lein, ac felly yr ydym ni hefyd.
A wyddech chi mai'r GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru gyda dros 98,400 o weithwyr, a bod mwy na 350 o opsiynau gyrfaol ar gael?
Yn Fferylliaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), rydym wedi datblygu adran adnoddau a
fforwm gofrestru dros dro ar ein gwefan. Mae hyn i gefnogi fferyllwyr cofrestredig dros dro a gyflogir
ym mhob sector fferyllol yng Nghymru ac ar gyfer y rhai sy'n byw yng Nghymru sy'n gweithio tuag at
eu heisteddiad cyntaf o asesiad cofrestru'r GPhC; rhwng Awst 2020-Gorffennaf 2021.
Mae'r adroddiad hwn gan y Ddeoniaeth Fferyllol o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn darparu'r data cyntaf a gyhoeddwyd am y gweithlu fferylliaeth gymunedol yng Nghymru.
Mae AaGIC, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a’r Samariaid wedi lansio llinell gymorth llesiant gyfrinachol newydd i weithwyr y GIG a gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yn ddiweddar rydym wedi gwneud rhai newidiadau i delerau ac amodau cytundeb Cynllun Bwrsariaeth y GIG i fod yn fwy ffafriol i fyfyrwyr.
Yn ôl data a gyhoeddwyd gan Fwrdd Recriwtio a Dethol Meddygol a Deintyddol y DU, mae Cymru wedi cyrraedd y cyfraddau llenwi uchaf ledled y DU.
Mae dwy o fyfyrwyr MPharm Prifysgol Caerdydd o Gymru, a gefnogodd y GIG yn ystod pandemig coronafeirws, wedi rhannu eu straeon o weithio yn ystod y cyfnod Covid.
Oherwydd yr argyfwng Covid-19 presennol, mae'r garfan 2019/20 o hyfforddeion cyn cofrestru yn canfod eu hunain mewn sefyllfa ddigyffelyb.
Mae'r wybodaeth hon ar gael i unrhyw un sy'n defnyddio Intrepid i archebu gwyliau blynyddol.
Simon yw Rheolwr Rhaglen Addysg Cymru, ac mae'n arwain y broses o weithredu Safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer addysg. Ysbrydolwyd ei feddyliau gan "Flwyddyn WHO y nyrs a'r fydwraig 2020' yn annog myfyrio ar ddigwyddiadau, profiadau a phobl y mae wedi cael ei ddylanwadu arnynt mewn gyrfa ddatblygol.
Croeso i’r pedwerydd rhifyn o’n cylchlythyr chwarterol i hyfforddeion.
Lansiwyd fframwaith cyntaf-o'i-fath i helpu technegwyr fferyllfa i ddatblygu eu llwybrau gyrfa.