Neidio i'r prif gynnwy

Shelley

Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Shelley gydag AaGIC.

Enw:                                    Shelley

Yn astudio:                        Cyfrifiadureg

Prifysgol:                           Prifysgol De Cymru

Interniaeth gyda:             Tîm Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Fy mhrofiad cyffredinol

Fy enw i yw Shelley a dw i yn yr ail flwyddyn yn astudio cyfrifiadureg ym Mhrifysgol De Cymru.

Dw i wedi gwneud interniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgolion Aneurin Bevan (BIPAB) drwy AaGIC yn yr adran Datblygu Sefydliadol. Dw i wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru tudalennau’r rhyngrwyd ar ran yr adran a gofynnwyd hefyd i mi adolygu eu gwefan recriwtio allanol presennol.

Dw i’n gobeithio bod yn ddatblygwr gwe neu’n beiriannydd meddalwedd yn y dyfodol. Dw i heb benderfynu eto a dyna pam gwnes i gais i wneud interniaeth dros yr haf er mwyn cael profiad o’r byd go iawn.

Dw i’n gefnogwr balch o gael mwy o fenywod ym maes STEM, sef gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a denu mwy o fenywod fel fi i faes technoleg.

Byddaf yn ystyried y GIG fel opsiwn yn y dyfodol, oherwydd bod yr interniaeth hon wedi agor fy llygaid i sawl llwybr gwahanol. Byddaf hefyd yn gofyn i gyflogwyr y dyfodol am ddefnyddio SharePoint oherwydd bod dal rhannau ohono hoffwn i ddysgu amdanynt.

 

Prosiect Shelley

Crynodeb o’r prosiect

Dw i’n un o ddau intern AaGIC a gafodd leoliad y tu allan i AaGIC ac yn BIPAN, yn benodol yn yr adran gweithlu a datblygu sefydliadol (WOD).

Dw i wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru tudalennau rhyngrwyd ar ran WOD ac, yn benodol, datblygu sefydliadol. Gofynnwyd hefyd i mi edrych ar y wefan recriwtio allanol a rhoi adborth fel datblygwr gwe ac mewn perthynas â hyfforddiant.

 

Amcanion y prosiect

Fy nodau i ar gyfer y prosiect oedd gwella effeithiolrwydd mewnrwyd y wefan recriwtio allanol. I’m helpu i gyflawni’r rolau hyn, roedd gen i weledigaeth o helpu defnyddwyr i lywio’r ddwy ochr yn effeithiol a gallu defnyddio’r fewnrwyd i ddod o hyd i adnoddau angenrheidiol yn haws.

Fy ngherrig milltir allweddol oedd fy mod i’n diweddaru’r dudalen mewnrwyd gyda datblygu sefydliadol. Addasais i’r cynllun, ychwanegais i ffrwd Twitter a thynnais i hen wybodaeth.

Gwnes i hefyd ysgrifennu ar dudalennau cynnal sy’n gasgliad o sleidiau PowerPoint i helpu i ddefnyddwyr newydd ddeall sut i ddiweddaru tudalennau SharePoint. Mae’n cynnwys ambell i arsylwad a wnes i wrth edrych ar y tudalennau a’u diweddaru fy hun. Mae hyn yn ychwanegol at y canllawiau staff a ddarparwyd gan dimoedd eraill yn BIPAB.

Gwnes i hefyd lunio adroddiad am sut y gallai’r wefan allanol fod yn fwy effeithiol.

 

Cyflawni’r prosiect

Drwy ddefnyddio technegau a ddysgais i yn y brifysgol, treuliais i’r bythefnos gyntaf o’m hinterniaeth yn gwneud gwaith cwmpasu ac ymchwil, megis diagram llywio ar gyfer tudalennau mewnrwyd gwahanol. Diweddais i’n creu tri diagram llywio i fapio’r llwybrau y gallai defnyddwyr eu cymryd drwy hyb mewnrwyd WOD.

Digwyddodd cynllun gweithredu datblygu drwy ddwy ddogfen, sef dogfen argymhellion lle cafodd fy syniadau eu hidlo i un ddogfen ffocws. Helpodd hyn i mi gael cymeradwyaeth am yr hyn roeddwn i am ei gyflawni a chadw cofnod o’n tasgau. Y ddogfen arall oedd dogfen newidiadau arfaethedig. Roedd yn cynnwys y newidiadau corfforol roeddwn i am eu gwneud i’r tudalennau rhyngrwyd yn ystod fy amser yma.

Dysgais i sut i ddefnyddio nodweddion SharePoint i greu tudalennau gwe mewnol gyda llwyddiant mawr. Wedyn, ysgrifennais i ganllaw i drosglwyddo’r wybodaeth hon yn y dyfodol. Darparais i adborth gwerthfawr ar wefan fyw allanol. Mwynheais i ddefnyddio fy nhechnegau modiwl dylunio gwe a’u cymhwyso i sefyllfa bywyd go iawn ac addasais i i weithio gyda’r tîm o bell.

 

Y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol

Yn fy amser hamdden, dw i’n mwynhau gwylio anime a chwarae gemau cyfrifiadur.