Neidio i'r prif gynnwy

Sam

Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Sam gydag AaGIC.

Enw:                                    Sam

Yn astudio:                        Rheoli Busnes

Prifysgol:                           Prifysgol Caerdydd

Interniaeth gyda:             Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu AaGIC

 

Fy mhrofiad cyffredinol

Helô, Sam ydw i a dw i’n mynd i’r drydedd flwyddyn yn astudio Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roeddwn i am wneud yr interniaeth hon i ennill profiad marchnata a chyfathrebu gwerthfawr, cael blas ar sefydliad yn y sector cyhoeddus a threulio’r haf yn datblygu fy rhwydweithiau a chronni cymaint o brofiad â phosib.

Mae’r interniaeth hon wedi bod yn fuddiol oherwydd fy mod i wedi cael cyfle i weithio mewn tîm yn hytrach na chysgodi staff. Mae cyfleoedd rhagorol wedi cynnwys y canlynol:

  • cael annibyniaeth i weithio ar y prosiect
  • cael y cyfle i weithio ar dasgau gwahanol
  • cael y cyfle i weld beth mae tîm cyfathrebu mewn sefydliad sector cyhoeddus yn ei wneud.

Hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i AaGIC am yr holl gefnogaeth drwy gydol yr interniaeth. Mae’r tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu wedi bod mor groesawgar ac wedi creu profiad gwych dw i wedi dysgu cymaint ohono. Ac yn olaf, i’m cyd-interniaid a wnaeth y profiad cymaint yn well.

 

Prosiect Sam

Crynodeb o’r prosiect

Treuliais i fy interniaeth yn y tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Fy mhrosiect i oedd peilota’r defnydd o gynnwys fideo ar ffurf fer drwy YouTube fel dull cyfathrebu ac ymgysylltu. Nod hyn yw gwella cyrhaeddiad ac ymgysylltiad sianeli cyfryngau cymdeithasol AaGIC. Byddai hyn yn cael ei wneud drwy wella golwg gweledol a threfniant cynnwys y sianeli a gwella optimeiddio peiriant chwilio ar gyfer sianeli drwy roi cynnig fideo ffurf fer ar waith.

Bydd hyn, yn ei dro, yn cynyddu nifer y tanysgrifwyr ar sianel YouTube AaGIC a chynyddu diddordeb yn gyffredinol.

Bydd y gallu i ddefnyddio fideos ar ffurf fer yn bendant yn ased i gyfathrebu drwy gydol AaGIC.

 

I ddechrau

Felly, o ran cyflawni’r prosiect, gwnes i ymchwil ac wedyn gweithiais i drwy gynllun gweithredu ar gyfer y prosiect gyda fy nhîm. I ddechrau, ymgyfarwyddais i â sianeli cyfryngau cymdeithasol AaGIC, canllawiau’r brand a’r polisi cyfryngau cymdeithasol. Wedyn, adolygais i fideos YouTube AaGIC gan ystyried y math o gynnwys presennol y byddai modd ei olygu i greu fideos byrrach. Yn dilyn hyn, treuliais i amser yn ymchwilio i dueddiadau fideos ffurf fer y gallai AaGIC eu hail-greu i gyd-fynd â’i frand a’r ffordd orau a fwyaf effeithiol o wneud hyn.

I roi’r prosiect ar waith, cynhyrchais i syniadau o gyfresi fideos y gallai AaGIC eu creu i gynnig cynhyrchiant cyson a rheolaidd o gynnwys. Ar ôl ymgynghori â fy nhîm, penderfynon ni symud ymlaen gyda thri phrif gategori o fideo i fodloni amcanion AaGIC. Roedd y rhain fel a ganlyn:

  1. diwrnod ym mywyd
  2. tri rheswm pam hyfforddais i i fod yn [proffesiwn gofal iechyd]
  3. fflach newyddion AaGIC

Wedyn, creais i gynllun ar gyfer y fideos hyn, yr hyn y dylid ei gynnwys ynddynt ac yna cysylltais i â thimoedd  amrywiol i annog pobl i gymryd rhan a chynnig darnau o ffilm y gellid ei chynnwys yn y fideos hyn, yn enwedig i hyrwyddo rolau a phrosiectau mae’r timoedd gwahanol wrthi’n eu gwneud.

 

Camau nesaf

Wedi myfyrio, ac wrth i’r interniaeth ddod i ben, drwy gydol fy amser yn AaGIC dw i wedi ymchwilio i a chynllunio cynnwys a fyddai’n ddiddorol ac yn denu diddordeb rhanddeiliaid, ac a fyddai’n addas iawn i optimeiddio peiriant chwilio i gynyddu cyrhaeddiad y cynnwys a’r ymgysylltiad.

Dw i o hyd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolion amrywiol yn AaGIC i annog timoedd i gymryd rhan a chreu cynnwys fideo ffurf fer a sylweddoli’r buddion y gall y fideos hynny eu cynnig. Rwyf wedi creu canllawiau ‘sut i’ a thempledi i’w gwneud hi’n haws ac mor syml â phosib i recordio fideos YouTube byr i annog diddordeb ar draws sianelu AaGIC. Dw i hefyd wedi datblygu casgliad o fideos YouTube byr yn barod i’w lansio ar sianel AaGIC, yn ogystal ag amrywiaeth o graffig a thempledi i’w defnyddio i wella cysondeb yn y cynnwys.

 

Y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol

Pan na fyddaf wrth y gliniadur, dw i wrth fy modd yn mynd allan, yn cadw’n heini ac yn cwrdd â phobl newydd. Dw i’n un sy’n hoff o gymdeithasu, dw i wrth fy modd yn cadw’r brysur ac yn archwilio lleoedd newydd!