Neidio i'r prif gynnwy

Nazia

Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Nazia gydag AaGIC.

Enw:                                    Nazia

Yn astudio:                        Optometreg

Prifysgol:                           Prifysgol Caerdydd

Interniaeth gyda:             Tîm Optometreg AaGIC

 

Fy mhrofiad cyffredinol

Nazia yw i a dw i yn fy ail flwyddyn o astudio Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwnes i interniaeth gyda’r tîm Optometreg yma yn AaGIC a dw i’n gweithio ar ganfod bylchau/meysydd o welliant yn y rhaglen cyn cofrestru drwy gasglu gwybodaeth gan oruchwylwyr a myfyrwyr cyn cofrestru.

Roedd siarad â phobl uwch yn y sefydliad yn eithaf brawychus, ond roedd pawb yn wych. Wrth i mi wneud mwy ac ymgartrefu, daeth i fod yn fwy normal, ac rwyf wedi dysgu llawer iawn am fy hun. Fy mantra oedd ‘ffugio tan lwyddo’.

I ddechrau, roeddwn i am wneud yr interniaeth hon i weld beth oedd ar gael ar wahân i optometreg glinigol. Mae tîm optometreg AaGIC yn hollol wych ac maent yn gwneud pob math o waith gwahanol. Rwyf wedi dysgu llawer.

 

Prosiect Nazia

Crynodeb o’r prosiect

Fy mhrosiect i oedd nodi meysydd o welliant yn y rhaglen cyn cofrestru ar gyfer optometregwyr. Gweithiais i gyda’r holl bobl wahanol gysylltiedig, megis goruchwylwyr, yr optometregwyr newydd gymhwyso a’r optometregwyr cyn cofrestru i gael eu barn a chael gwybod beth maent yn ei feddwl am y rhaglen er mwyn nodi bylchau lle mae angen gwelliant.

Nod hyn oedd trosglwyddo fy nghanfyddiadau ymlaen i wella’r rhaglen cyn cofrestru ar gyfer optometregwyr fel fi fy hun.

Yr arolwg

Creais i arolwg ar Microsoft Forms ar gyfer myfyrwyr cyn cofrestru a’r optometregwyr newydd gymhwyso. Arolwg ticio blychau hwylus a chyflym oedd hwn er mwyn i ni gael syniad o’r hyn maent yn ei feddwl ac yn ei brofi’n gyffredinol.

 

Ar gyfer goruchwylwyr, creais i holiadur mwy agored ei arddull a threfnu cyfarfodydd 20 munud o hyd at Microsoft Teams i fynd drwy’r holiaduron. Gwnaeth hyn fy ngalluogi i i gael dealltwriaeth fwy manwl o’r hyn roeddent yn ei feddwl.

Sylwais i ar ambell beth sydd wedi codi tro ar ôl tro yn y sgyrsiau a gefais i, ac yn y data o’r arolwg. Un peth rwyf wedi’i ganfod yw bod y goruchwylwyr a’r myfyrwyr o’r farn bod digon o ddeunyddiau dysgu wedi cael eu darparu. Mae hyn yn dangos bod y maes hwn yn gwneud yn dda ac nid oes angen canolbwyntio arnynt gymaint. Fodd bynnag, ar y llaw arall, peth arall rwyf wedi’i ganfod yw nad oedd y myfyrwyr yn deall rôl y goruchwyliwr ac yn meddwl amdanynt yn fwy fel athro na mentor. Mae hyn yn amlygu y gallai’r myfyrwyr deimlo heb ei baratoi ar gyfer eu blwyddyn cyn cofrestru a dyma faes y gall AaGIC neu brifysgolion weithio arno er mwyn gwella.

Y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol

Yn fy amser y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol, dw i’n mwynhau treulio amser gyda theulu a ffrindiau. Dw i’n hoffi mynd allan i roi cynnig ar fwydydd gwahanol a mynd am dro yn y car.