Neidio i'r prif gynnwy

Michelle

Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Michelle gydag AaGIC.

Enw:                                    Michelle

Astudio:                             Gwyddorau Biofeddygol       

Prifysgol:                            Prifysgol Caerdydd

Interniaeth gyda:              Tîm Gwella Ansawdd AaGIC

 

Fy mhrofiad cyffredinol

Michelle yw fy enw i ac rwyf yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio’r Gwyddorau Biofeddygol.

Rwyf i wedi cwblhau interniaeth yma yn AaGIC yn yr adran Gwella Ansawdd, lle gwnes i ganolbwyntio ar greu map cynaliadwyedd o randdeiliaid. Roedd hyn yn cynnwys rhwydweithio i ddod o hyd i gysylltiadau sydd wedi gweithio i wreiddio gofal iechyd cynaliadwy mewn rhaglenni hyfforddi, prosiectau’r gorffennol neu grwpiau gweithio presennol.

Ychydig o gyflwyniad amdana i. Rwy’n dod o’r Philipinau a gogledd Cymru ac rwyf newydd orffen fy ail flwyddyn fel myfyriwr y biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda phwyslais ar anatomeg.

Yn ystod fy nghyfweliad ar gyfer y swydd hon, fy nisgwyliad i oedd y byddai’n rhoi dealltwriaeth i mi o ofal iechyd cynaliadwy. O’r blaen, roedd hyn yn anghyfarwydd i mi, felly roeddwn i am archwilio’r ochr newydd hon o’r GIG oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod am AaGIC.

Roeddwn i hefyd am ddeall y cefndir proffesiynol a sgiliau megis rheoli amser a gweithio mewn tîm, sef meysydd rwyf am eu gwella. Roeddwn i hefyd am herio fy hun. Roedd y syniad o wella ansawdd a gofal iechyd cynaliadwy yn anghyfarwydd iawn i mi i ddechrau, ac er gwaethaf modiwl mewn Dulliau Amgylcheddol, roeddwn i am wneud rhywbeth newydd.

 

Prosiect Michelle

Crynodeb y prosiect

Mae fy mhrosiect i’n dod o’r rhaglen Meddyg y Dyfodol. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys wyth thema drosfwaol sy’n ymwneud â rôl meddyg mewn tîm clinigol y dyfodol. Mae’n cynnwys cangen iechyd poblogaethau a gofal iechyd cynaliadwy.

Prif weledigaeth ym mhrosiect oedd cwmpasu’r sefyllfa gofal iechyd cynaliadwy yng Nghymru. Rwy’n credu y gwnaeth hyn ddod o ddealltwriaeth gynyddol o’r camau gweithredu amgylcheddol mae’n rhaid eu cymryd, yn enwedig yn y sector gofal iechyd, oherwydd does dim planed arall!

 

Nodau a cherrig milltir allweddol

Dechreuais i drwy greu map o rwydwaith rhanddeiliaid, a oedd yn cynnwys AaGIC a’r saith bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG. Roedd hyn yn cynnwys casglu adborth ar weithgareddau gofal iechyd cynaliadwy ac unigolion â diddordeb arbennig. Yna, byddwn i’n nodi’r themâu ac yn casglu fy nghanfyddiadau mewn ffordd fwy darllenadwy a hygyrch.

 

Cyflawni’r prosiect

Dechreuais i gyflawni’r prosiect drwy ymgyfarwyddo â’r maes gwaith. Darllenais i drwy’r cynllun gweithredu cynaliadwyedd, y cynllun dadgarboneiddio a’r rhaglen Meddyg y Dyfodol.

Dechreuais i gysgodi cyfarfodydd a chasglu gwybodaeth drwy gynnal fy nghyfweliadau a’m grwpiau ffocws fy hun i gael cymaint o wybodaeth â phosib am rolau’r unigolion roeddwn i’n cyfweld â nhw. Gweithiais i gyda rhanddeiliaid yn AaGIC yn gyntaf, gan ddod o hyd i wybodaeth am ymgysylltu cynaliadwy yn y sefydliad. Yna, rhwydweithiais i â randdeiliaid allanol mewn byrddau iechyd gwahanol.

Trefnais i’r rolau a’r prosiectau hyn yn ‘swigod’, wedi’u selio’n fras ar grid diddordeb pŵer, a chreais i gategorïau wedi’u diffinio mewn map o’r rhwydwaith.

Rwyf wedi creu map rhwydweithio ar Prezi. Helpodd hyn i mi ddiffinio rolau pobl a’u perthnasoedd i gynaliadwyedd. Felly ar hyn o bryd, mae’r map rhanddeiliaid AaGIC wedi’i lenwi’n llawn a chyrhaeddais i nodi prif randdeiliaid ym mhob bwrdd iechyd.

 

Camau nesaf

Camau nesaf y prosiect hwn fydd canolbwyntio ar randdeiliaid allanol, gan ddefnyddio’r pwynt cyswllt cyntaf hwnnw â’r prif randdeiliaid a gweithio tuag allan. Rwyf hefyd yn meddwl y dylem ni ganolbwyntio ar rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cynaliadwyedd.

Rhan o’m prosiect yw datblygu cyfres o argymhellion ar gyfer gwreiddio gofal iechyd cynaliadwy. Fodd bynnag, ches i ddim o’r cyfle i wneud hyn yn ystod yr interniaeth felly byddai hynny hefyd yn gam nesaf gwych.

 

Heriau

Mae wedi bod yn wyth wythnos hollol wych! Oherwydd gweithio o bell a gwyliau blynyddol, un o’r anawsterau a wynebais i oedd ymgysylltiad â rhanddeiliaid. Fodd bynnag, des i dros hyn drwy hysbysu pobl, a thanlinellu natur frys fy mhrosiect a sut mae’n helpu’r sefyllfa cynaliadwyedd yng Nghymru.

Roeddwn i’n awyddus i glatsio bant gyda’r prosiect ac roeddwn i’n frysiog i ddechrau. Fodd bynnag, helpodd gweithio gyda’m rheoli i mi ganolbwyntio’n fewnol yn AaGIC i ddechrau. Amlygodd ef y byddai’n fwy buddiol i bawb gwneud newidiadau bach i safon well  yn hytrach na rhuthro pethau.

 

Yr hyn rwyf wedi’i ddysgu

Diolch i’r interniaeth hon, rwyf wedi dod yn fwy hyderus mewn amgylchedd gweithle. Gwnes i hefyd weithio ar gyfathrebu’n effeithiol drwy ddefnyddio’r cwmpawd arweinyddiaeth dosturiol a gyflwynwyd i’r holl interniaid ar ddechrau’r wyth wythnos.

Dysgais i hefyd sut i flaenoriaethu fy sylw er mwyn canolbwyntio’n well ar AaGIC a’m harholiadau dros yr haf.

Mae AaGIC yn lle unigryw i weithio, yn llawn cydweithwyr caredig a chroesawgar a oedd wir eisiau’r canlyniad gorau i’r prosiect ac i mi fel unigolyn. Mae AaGIC hefyd yn barchus iawn o’r cydbwysedd gwaith/bywyd ac mae diwylliant gweithio hyfryd yno.

 

Y tu allan o’r gwaith a’r brifysgol

Yn fy amser hamdden, rwy’n hoffi chwarae’r ukulele, gwneud ioga a gwylio a/neu chwarae rygbi. Tyfais i i fyny yn yr haul yn Dubai ac felly rwyf wrth fy modd yn yr awyr agored yn yr heulwen! Mae diwedd y brifysgol dim ond yn flwyddyn i ffwrdd i mi erbyn hyn felly rwy’n manteisio i’r eithaf ar y grwpiau cymdeithasol ar hyn o bryd, fel y Gymdeithas Philipinaidd a’r Clwb Rygbi.