Neidio i'r prif gynnwy

James

Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth James gydag AaGIC.

Enw:                                    James

Astudio:                             Rheoli Busnes

Prifysgol:                           Prifysgol Caerdydd

Interniaeth gyda:             Tîm Strategaeth Gweithlu a Chynllunio yn AaGIC

 

Fy mhrofiad cyffredinol

James ydw i ac rwyf yn fy ail flwyddyn yn astudio Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwnes i interniaeth yn y tîm Strategaeth a Chynllunio Gweithlu, ac rwyf yn gweithio ar y Rhwydwaith Cynllunio Gweithlu (WFPN).

Yn wreiddiol, rwy’n dod o Cheltenham a symudais i i Gaerdydd i astudio rheoli busnes ym Mhrifysgol Caerdydd, lle rwyf newydd orffen fy ail flwyddyn.

Roeddwn i am wneud lleoliad interniaeth dros yr haf i helpu i roi hwb i’m rhwydwaith a rhoi profiad i mi o sut brofiad yw gweithio mewn amgylchedd swyddfa a defnyddio’r hyn rwyf wedi ei ddysgu yn y Brifysgol. Dewisais i AaGIC oherwydd ei ddiwylliant. Hefyd, roeddwn i am weithio yn y sector gofal iechyd, megis y GIG, gan ei fod yn weithlu amrywiol iawn. Mae’r interniaeth hon wedi cyflwyno safbwyntiau newydd i mi am yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r rheng flaen.

 

Prosiect James

Crynodeb o’r prosiect

Ar gyfer fy mhrosiect i, rwyf wedi bod yn ystyried y rhwydwaith Cynllunio Gweithlu. Mae’r rhwydwaith hwn o unigolion sy’n dod o’r byrddau iechyd lle gallwch ni siarad yn rhagweithiol am a heriau anghenion cynllunio gweithlu.  Mae hefyd yn lle i ddatblygu deunyddiau hyfforddi a threfnu gweithdai i allu lledaenu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth i helpu i gynllunio’n well ar gyfer y dyfodol.

 

Beth yw cynllunio gweithlu?

Cynllunio gweithlu yw edrych ar gyflenwad y dyfodol a’r galw am lafur yn y gweithlu yn y GIG. Mae’n ymwneud â chael y bobl iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn i ddiwallu anghenion cleifion a gallu cynnal safon uchel o ofal i gleifion.

Mae hefyd yn bwysig edrych ar ddigwyddiadau defnyddwyr presennol a dilyn y diweddaraf mewn perthynas ag unrhyw dueddiadau gweithluoedd a allai fod yn berthnasol. Er enghraifft, yn ddiweddar, mae llawer o bobl ledled y wlad yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddeintyddfa GIG i’w derbyn.

 

Beth ydw i wedi’i wneud yn AaGIC?

Dros yr wyth wythnos, rwyf wedi bod yn gweithio ar y rhwydwaith cynllunio gweithlu i allu ehangu a chynyddu ymgysylltiad. Dechreuodd hyn drwy helpu i drefnu a chynllunio ein gweithdy wyneb yn wyneb cyntaf ers Covid-19. Cysylltais i â’r siaradwr gwadd i sicrhau bod popeth wedi’i drefnu ac y byddai’n mynd yn hwylus ar y diwrnod Roeddwn i hefyd yn gallu ymarfer fy sgiliau cyflwyno a siarad drwy baratoi pwyntiau cyflwyno ar gyfer y siaradwr gwadd.

Roeddwn i’n rhan bwysig o’r broses o greu arolwg ymgysylltu ar gyfer y rhwydwaith cynllunio gweithlu. Bydd yr arolwg hwn yn ystyried yr hyn mae pobl yn ei ddisgwyl gennym ni yn AaGIC, yn ogystal â’r pethau maent yn eu hoffi a’r pethau y gellid eu gwella i gael mwy o werth gan y rhwydwaith.

At hynny, dechreuais i greu cynllun cyflwynydd. Bydd hwnnw’n cynnwys siaradwyr gwadd allweddol yn ogystal â chynllunio themâu allweddol ar gyfer digwyddiadau’r dyfodol. Mae cynllun yn ystyried nodau ac amcanion y rhwydwaith cynllunio gweithlu, ynghyd â ffactorau hybu a sefydliadol eraill ar gyfer pob un o’r cyfarfodydd.

Rwyf hefyd wedi bod yn rhan o wneud gwaith dylunio logo ar gyfer y rhwydwaith cynllunio gweithlu y gellir eu defnyddio ar ddeunyddiau ac adnoddau hyfforddi yn y dyfodol.

 

Yr hyn rwyf wedi’i ddysgu

Gan edrych yn ôl ar fy amser yn AaGIC, dysgais i lawer o safbwynt datblygiad personol. Rwyf wedi gallu ymarfer a datblygu fy sgiliau cyflwyno, sydd wedi bod yn rhywbeth nad ydw i wedi bod yn awyddus arno yn y gorffennol a dyw i ddim yn teimlo’n hyderus iawn yn gwneud hynny. Felly mae hynny wedi bod yn gyfle dysgu gwych i mi allu gwella’r sgiliau hyn.

Rwyf hefyd wedi gallu datblygu sgiliau ymarferol, megis defnyddio Microsoft Excel mewn mwy o fanylder. Bydd hynny’n fy helpu yn y dyfodol er mwyn gallu bod yn effeithiol wrth fewnbynnu, dadansoddi ac ystyried data dros daenlenni mawr.

Mae AaGIC wedi rhoi profiad i mi ond mae hefyd wedi cynnig amgylchedd lle gallaf ymarfer yr hyn rwyf wedi’i ddysgu am wybodaeth o’m gradd rheoli busnes. Mae’r interniaeth hon wedi helpu i ddangos i mi sut caiff digwyddiadau a gweithdai eu trefnu yn ogystal â sut i weithio fel tîm i gyflawni nod gyffredin.

Ar y cyfan, rwyf wedi mwynhau fy amser yn AaGIC yn fawr iawn. Rwyf wedi cwrdd â phobl wych sydd wedi fy helpu ar hyd y ffordd ac sydd wedi fy nghroesawu a’n helpu dros yr wyth wythnos. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw.

 

Y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol

Yn fy amser, rwyf yn mwynhau mynd i’r gampfa, rhedeg a chwarae gemau fideo.