Neidio i'r prif gynnwy

Declan

Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Declan gydag AaGIC.

Enw:                                    Declan

Yn astudio:                        Rheoli Adnoddau Dynol

Prifysgol:                           Prifysgol De Cymru

Interniaeth gyda:             Tîm Pobl AaGIC

 

Fy mhrofiad cyffredinol

Shwmae, Declan ydw i ac rwy’n fyfyriwr yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol De Cymru.

Roedd gen i ddiddordeb yn y cyfle i wneud y rôl hon oherwydd ei bod hi’n cyd-fynd â’m maes astudiaethau i. Roeddwn i hefyd yn chwilfrydig i ddysgu am a chyfrannu at y sector cyhoeddus oherwydd cyn hynny, dim ond yn y sector preifat roeddwn i wedi cael fy nghyflogi.

Uchafbwynt yr interniaeth i mi oedd rhwydweithio a’r cyfle i gwrdd nid yn unig â’r interniaid eraill ond fy nhîm hefyd. Mae gan lawer o’r bobl roeddwn i’n gweithio gyda nhw achrediad CIPD felly roedd yn gysylltiedig â’m lwybr gyrfa i. Rwyf hefyd wedi mwynhau datblygu gwybodaeth a phrofiad o bawb arall a chlywed eu straeon; i mi, hon oedd y rhan bwysig, ac roedd yn fuddiol iawn.

O safbwynt sefydliadol, doeddwn i byth wedi sylweddoli pa mor gynhwysfawr yw’r GIG mewn gwirionedd. Roedd gen i’r meddylfryd naturiol mai ‘meddygon a nyrsys sy’n gwneud y GIG’ a dyna ‘ny. Mae’r interniaeth hon wedi dangos i mi pa mor gyfannol yw e fel sefydliad mewn gwirionedd. Roeddwn i’n gwybod bod y GIG yn gofalu am ei gleifion, ond roedd yn braf gweld hynny o safbwynt diwylliannol sefydliadol y GIG yn AaGIC.

Yn gyffredinol, roedd yr interniaeth yn agoriad llygaid am ba mor gynhwysfawr a chyfannol yw’r GIG yng Nghymru mewn gwirionedd.

 

Prosiect Declan

Crynodeb o’r prosiect

Ar gyfer fy interniaeth, cefais fy rhoi yn y Tîm Pobl yn AaGIC. Yn ystod fy 8 wythnos, canolbwyntiais i ar safoni contractau, adolygu strwythur sefydliadol a helpu’r tîm gyda dyletswyddau AD yn gyffredinol.

 

Amcanion

Fy mhrif amcan yn AaGIC oedd mapio strwythur ar gyfer y gweithlu gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau data lluosog. Roedd hyn yn cynnwys categoreiddio staff ar gyfer amrywiaeth o swyddi a mathau gwahanol o statws. Pan oedd hyn wedi’i nodi, cymharais ac amlinellais i’r prif wahaniaethau cytundebol rhwng polisïau Prifysgol Caerdydd ac AaGIC. Roedd hyn yn cynnwys manteision a gweithdrefnau, yn ogystal â rhwymedigaethau cytundebol.

Canlyniad y prosiect oedd glanhau data presennol yn y Cofnod Staff Electronig (ESR) a chofnodion y gweithlu. Byddai hyn yn helpu i gyfleu’n gywir gwir niferoedd gweithlu AaGIC.

 

Cydnabyddiaethau ac argymhellion

Mae fy nhîm wedi bod yn ganolog i’m helpu i gyflawni’r holl amcanion dechreuais i gyda nhw. Hoffwn i ddiolch i’r holl unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect.

Yn fy mhrofiad i, roedd y cwmpawd trugarog yn arwydd o ddiwylliant sefydliadol AaGIC. Maent yn drugarog, yn helpu pobl eraill ac roedd hynny’n hollbwysig i’m prosiect i, yn fy marn i.

 

Y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol

Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau bod yn actif yn yr awyr agored, gan gynnwys nofio a mynd am dro gyda dau gi fy chwaer (Leo a Hugo). Rwy’n mynd i fod yn wncl i ddwy efail cyn hir hefyd, felly mae’n debygol iawn mai hynny bydda i’n fy ngwneud am y dyfodol agos.