Neidio i'r prif gynnwy

Chris

Yn ystod haf 2022, croesawyd 15 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Yma, gallwch chi ddarllen am brofiad interniaeth Chris gydag AaGIC.

Enw:                                    Chris

Yn astudio:                        Daearyddiaeth a Chynllunio

Prifysgol:                            Prifysgol Caerdydd

Interniaeth gyda:              Tîm Cynllunio a Pherfformiad AaGIC

 

Fy mhrofiad cyffredinol

Chris ydw i ac rwy’n dechrau fy nhrydedd flwyddyn fel myfyriwr daearyddiaeth ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwnes i interniaeth yn adran cynllunio a pherfformiad AaGIC yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gyda diddordeb penodol mewn sefydlu cyfadran gynaliadwy ar gyfer gofal iechyd.

Roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr interniaeth hon oherwydd cynigodd profiad o gynaliadwyedd i mi. Hefyd, nid oedd gofal iechyd cynaliadwy ym maes lle'r oedd gen i brofiad a doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdano, felly roedd y posibilrwydd o archwilio maes newydd sbon yn ddeniadol iawn i mi.

Roedd y ffaith fod AaGIC yn rhan o’r GIG hefyd yn ddeniadol i mi oherwydd fy mod i’n parchu’r GIG, fel sefydliad, yn fawr iawn. Ffaith ddiddorol: ces i fy ngeni tri mis yn gynnar, felly gwnaeth y GIG fy helpu’n fawr iawn yn ystod yr adeg honno yn fy mywyd.

Mae bod yn intern yn AaGIC wedi bod yn brofiad gwych i mi. Rwy’n teimlo ei fod wedi bod yn hynod werthfawr ar gyfer datblygu cynifer o sgiliau cyflogaeth a rhwydweithio allweddol, ac wedi bod yn gyfle i ymgyfarwyddo â’r byd gwaith yn gyffredinol.

 

Prosiect Chris

Crynodeb o’r Prosiect

Fy mhrosiect i oedd cefnogi gwaith datblygu cynnar cyfadran Gymreig ar gyfer gofal iechyd cynaliadwy. Mae’r gyfadran yn gais uchelgeisiol iawn i wreiddio’r ymarfer cynaliadwy gorau ar draws maes gofal iechyd yng Nghymru.

Y weledigaeth yw grymuso gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i ymarfer gofal iechyd i bobl Cymru ac iechyd y blaned. Syniadau allweddol y gyfadran yw:

  • cynyddu ymwybyddiaeth
  • gwreiddio addysg sy’n ystyriol o ran yr hinsawdd
  • a chefnogi gwelliant.

Er bod y gyfadran yn fach ar hyn o bryd, y nod yw ei hehangu i gynnwys Cymru gyfan a darparu newid cynaliadwy ym maes gofal iechyd.

 

Fy nodau ar gyfer y prosiect hwn

Roedd dwy brif nod gen i ar gyfer fy mhrosiect yn AaGIC. Y gyntaf oedd helpu i recriwtio 35 o hyrwyddwyr cynaliadwyedd a fyddai’n cael eu huwchsgilio mewn perthynas â chynaliadwyedd a lledaenu eu gwybodaeth yn eu mannau gwaith ledled Cymru. Roedd cefnogi hyn yn ganolog i’n hwythnosau cynnar yn AaGIC.

Pan gwblhawyd hyn, newidiodd fy nod i sefydlu adnoddau mapio ar gyfer hyb y gyfadran. Caiff yr hyb ei gynnal ar Gwella a bydd yn cadw’r holl adnoddau y byddai unrhyw un sy’n chwilio am gynaliadwyedd eu hangen.

Mae sawl un o’r cerrig milltir allweddol y lansiad hwn wedi cynnwys:

  • mapio adnoddau cymorth i’r holl broffesiynau ledled gofal iechyd
  • cynorthwyo cynlluniau cyfathrebu lansio’r hyb
  • mapio hyfforddiant a sefydliadau ar gyfer cymorth ar yr hyb
  • creu pecyn lansio’r hyb
  • nodi siaradwyr posib sy’n gallu siarad am bwysigrwydd addysg sy’n ystyriol o ran yr hinsawdd.

Ar ddechrau’r interniaeth, roedd yn rhaid i mi ddarllen llawer am sefyllfa Cymru ac AaGIC mewn perthynas â chynaliadwyedd, a fu’n help mawr wrth roi gwybodaeth gefndirol i mi am y sefyllfa yng Nghymru. Cafodd hyn ei ategu ymhellach pan es i i Gynhadledd Iechyd Gwyrdd Cymru cyn dechrau fy interniaeth, gan roi rhagor o wybodaeth bwysig iawn i mi a’n helpu i fod ar ben ffordd yn syth.

Oherwydd natur newydd iawn y prosiect hwn, dechreuais i helpu’n syth gyda gwaith recriwtio’r hyrwyddwyr hyn, yn llunio poster recriwtio, creu disgrifiadau a hysbysebion swydd. Gwnes i hyn drwy gyfrannu at y strategaeth er mwyn darparu’r allgymorth mwyaf a sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn gwneud cais am y rôl.

Yna symudais i ymlaen i goladu 100 o gyfnodolion, erthyglau a phecynnau cymorth gwahanol a oedd yn ymwneud â chynaliadwyedd dros amrywiaeth eang o broffesiynau. Codiais i nhw er mwyn ei gwneud hi’n bosib eu defnyddio yn yr hyb llyfrgell a fydd yn gallu cynnig gwybodaeth ar alw ledled Cymru.

 

Camau nesaf

Byddaf yn trosglwyddo’r holl waith a wnes i i dîm galluog AaGIC yn barod i lansio’r hyb ym mis Tachwedd.

Hefyd, fe wnaeth fy ysbrydoli i barhau i achub ar bob cyfle sy’n dod ac uwchsgilio cymaint â phosib. Fy ngham nesaf fydd dechrau ar fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd lle byddaf yn cwblhau fy nhraethawd estynedig. Bydd hyn yn canolbwyntio ar AaGIC, gobeithio.

 

Y tu allan i’r gwaith a’r brifysgol

Yn fy amser hamdden, dw i’n dwlu ar wylio a gwneud chwaraeon, am hoff chwaraeon yw pêl-droed a thennis. Dw i hefyd yn mwynhau cymdeithasu gyda ffrindiau a mynd am dro ym myd natur.