Bydd Clinigwyr Gofal Sylfaenol a gyflogir mewn practis cyffredinol ledled Cymru yn elwa o addysg diagnosis canser cynnar rhad ac am ddim GatewayC.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi gweithio mewn partneriaeth â Rhwydwaith Canser Cymru ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Christie i lansio GatewayC yng Nghymru, yn dilyn lansiad llwyddiannus yn Lloegr. Mae'r rhaglen hon yn cefnogi Cynllun Gwella Canser Cymru 2023 — 2026, sy'n nodi'r uchelgais i adnabod canser yn gynt ac yn gyflymach er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.
Bydd yr adnodd diagnosis canser cynnar hwn yn cael ei ddarparu trwy blatfform ar-lein GatewayC gyda'r nod o gefnogi penderfyniadau clinigol, canfod canser yn gynnar, a gwell rheolaeth, gofal a chymorth i bobl y mae canser yn effeithio arnynt.
Wedi'i ddylunio gan y GIG, ar gyfer y GIG, mae GatewayC yn cynnig DPP am ddim ar draws sawl safle canser ar ffurf cyrsiau, gweminarau, a fideos ar ffurf ddogfennol. Mae'r holl addysg yn rhad ac am ddim i gofrestru ac mae'n cynnig yr hyblygrwydd i gwblhau gweithgareddau byr Mae'r dangos fwrdd dysgu wedi'i bersonoli yn arbed cynnydd y defnyddiwr, gan ganiatáu iddo ddychwelyd i gyrsiau gymaint o weithiau ag y bo angen.
Bydd yr adnodd ar gael fel ap bwrdd gwaith ym mhob practis ledled Cymru. Mae dros 30+ awr o DPP ardystiedig ar gael.
Dywedodd Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd: “Fel rhan o'r Cynllun Gwella Canser, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cydweithwyr i wella gwasanaethau gofal canser i bobl Cymru. Mae GatewayC yn darparu hyfforddiant ychwanegol i'n cydweithwyr clinigol ym maes gofal sylfaenol i gefnogi eu penderfyniadau clinigol mewn perthynas â chanfod canser yn gynnar sy'n amhrisiadwy i gleifion.”
Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru: “Mae hwn yn adnodd ar-lein rhagorol sydd wedi'i werthuso ac y bwriedir ei ddefnyddio am ddim gan gydweithwyr clinigol sy'n gweithio ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol yng Nghymru. Mae'r holl fodiwlau'n dilyn canllawiau NICE NG12 ac yn cynnwys mwy na deg awr ar hugain o DPP. Byddwn yn annog pob Ymarferydd Gofal Sylfaenol a Chymunedol i gael mynediad at GatewayC gyda'r nod o gynorthwyo diagnosis cynharach o ganser gan arwain at well gofal amserol i gleifion”.
Dywedodd Doctor Catherine Heaven, Cyfarwyddwr Cyswllt Christie Education a Chyfarwyddwr Rhaglen GatewayC, “Rydym wrth ein bodd bod rhaglen GatewayC bellach yn ehangu ledled Cymru, gan ein galluogi i gefnogi targedau canfod canser cynnar, gwella gwybodaeth am ganser ac, yn y pen draw, achub bywydau cleifion. Ni allem fod yn fwy balch bod gan y gweithlu gofal sylfaenol yng Nghymru bellach fynediad at yr adnodd diagnosis canser cynnar pwysig hwn”.
Dywedodd Alice Bowden, Rheolwr Rhaglen, GatewayC, “Mae ein tîm wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod GatewayC yn cynnig diagnosis cynnar o ganser ar gyfer gofal sylfaenol. Mae'r platfform yn cynnig profiad personol, hyblyg a hawdd ei ddefnyddio i gefnogi clinigwyr yn y clinig a'r tu allan iddo i gael mynediad at addysg canser pwysig. Rydym am sicrhau bod gan bob clinigwr sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol fynediad at addysg canser o ansawdd uchel ar flaenau eu bysedd. Bydd yr adnodd hwn yn helpu i wireddu'r uchelgais hwn.”
Mae GatewayC yn cael ei lansio ddydd Llun 20 Mawrth 2023 a bydd cydweithwyr yn gallu cael mynediad i'r platfform naill ai drwy fynd i wefan GatewayC www.gatewayc.org.uk neu drwy glicio ar eicon GatewayC sy'n cael ei osod ar bob bwrdd gwaith Practis Meddygon Teulu ar y diwrnod lansio.
I gofrestru ar gyfer GatewayC, ewch i: Cofrestru - Cymru - GatewayC
I gael rhagor o wybodaeth am adnodd GatewayC, ewch i: Amdanom Ni - GatewayC