Neidio i'r prif gynnwy

Tregyrfa

Yn ddiweddar, lansiwyd gwe-lwyfan arloesol, cwbl ddwyieithog sy'n arddangos yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Wedi’i datblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mae Tregyrfa ar hyn o bryd yn targedu dysgwyr a phobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed, ond bydd yn ehangu i gwmpasu bob oedran wrth iddi esblygu.

Gall ymwelwyr â Thregyrfa lywio drwy'r pentref rhithwir a mynd i mewn i adeiladau amrywiol. O fewn y rhain mae modd iddyn nhw gael gwybodaeth am wahanol rolau iechyd a gofal, cyrchu adnoddau, gwylio fideos a darllen blogiau i gael mewnwelediad go iawn i’r gwaith a wneir o fewn y GIG a gwasanaethau iechyd a gofal ehangach yng Nghymru.

Gan y gall ystyried opsiynau gyrfa fod yn broses frawychus yn aml, nod y prosiect hwn yw sicrhau bod y wybodaeth angenrheidiol ar gael ar flaenau eich bysedd.

Gyda thros 350 o rolau gwahanol ar gael, mae gan iechyd a gofal rywbeth i'w gynnig ar bob cam o'ch gyrfa chi—mae llawer mwy na dim ond meddygaeth a nyrsio! Efallai bod unigolion hefyd yn tybio bod rhaid iddyn nhw fynd i'r brifysgol neu’n camgymryd rolau a'r hyn y maen nhw’n eu cynnwys.

Dywedodd Angie Oliver, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn AaGIC: “Ein gweithlu yw ein hased pennaf. Gall Tregyrfa helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol gofal iechyd a sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein pobl yng Nghymru. Rydym wrth ein boddau gyda'r adborth o'r lansiad ac yn eiddgar i weld Tregyrfa yn datblygu wrth i ni ychwanegu mwy o feysydd proffesiynol wrth symud ymlaen.”

Mae'r we-lwyfan rhad ac am ddim ar gael i ddysgwyr, athrawon, rhieni neu warcheidwaid, a chynghorwyr gyrfaoedd. Mae Tregyrfa yn cartrefu amrywiol elfennau o ddarpariaeth iechyd a gofal a'r gyrfaoedd cysylltiedig sydd ar gael. Gall ymwelwyr â'r safle archwilio chwe maes proffesiynol ar hyn o bryd:

  • Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd
  • Gwyddor Gofal Iechyd
  • Nyrsio
  • Meddygaeth
  • Fferylliaeth
  • Gofal cymdeithasol a gofal plant [adeilad Gofal Cymdeithasol Cymru].

Mae adnoddau gyrfa ehangach yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Sgiliau, gan gynnwys y gyfres Bydd Wych, sy'n cynnwys fideos ar gyfweliadau, ac awgrymiadau ymgeisio am brifysgolion a swyddi. Ceir hefyd y Gornel Gymraeg sy'n dangos gwerth siarad Cymraeg yn y gweithle, ar bob lefel hyfedredd.

Cafodd Tregyrfa ei lansio fis diwethaf gyda phrif siaradwyr ar gyfer pob un o'r meysydd proffesiynol, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS. Cafodd bron i 3,000 o ymweliadau ar ddiwrnod y lansiad a chafodd adborth cadarnhaol iawn.

Lansiwyd Tregyrfa yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd. Bu i’r safle Cymraeg (Tregyrfa) gyfrif am 27.7% o gyfanswm yr ymweliadau a gafwyd yn ystod yr wythnos gyntaf. Roedd hyn yn llawer gwell na’r disgwyl!

Bydd datblygiad Tregyrfa yn broses barhaus, gyda meysydd proffesiynol a gwybodaeth yn cael eu hychwanegu’n gyson dros y misoedd nesaf. Ein nod yn y pen draw ar gyfer Tregyrfa yw ei datblygu’n we-lwyfan ar gyfer yr ystod oedran lawn a chaniatáu i ymwelwyr greu rhithffurf a fydd yn gallu ymweld â phob adeilad a gallu:

  • casglu adnoddau
  • profi realiti rhithwir
  • siarad ag arbenigwyr
  • cael mewnwelediad gwerthfawr i gyfleoedd gyrfa.

Fel rhan o'r datblygiad hwn, byddwn yn cynnal sesiynau datblygu gyrfa gan gynnwys cymorth ceisiadau UCAS, sgiliau cyfweld a dynodi sgiliau trosglwyddadwy. Bydd hyn yn caniatáu i ymwelwyr adeiladu portffolio o dystiolaeth y byddan nhw’n gallu ei ddefnyddio i gefnogi ceisiadau prifysgol a swydd.

I ymweld â'r we-lwyfan, defnyddiwch y dolenni canlynol: