Neidio i'r prif gynnwy

Staff Gwasanaethau Llieiniau

Beth yw Cynorthwyydd Llieiniau?

Mae staff gwasanaethau llieiniau yn sicrhau bod gan adrannau meddygol ledled y GIG ddigon o lieiniau glân, fel cynfasau a thyweli.

Mae eu gwaith yn rhan bwysig o ofal iechyd gan fod llieiniau brwnt sydd heb eu glanhau’n iawn yn gallu achosi i heintiau ledu.

Gall gwaith cynorthwyydd llieiniau fod yn anodd yn gorfforol. Mae nifer o rolau mewn gwasanaethau llieiniau. Mae’r rhain yn cynnwys Cynorthwyydd Gwasanaethau Llieiniau, Goruchwylwyr Gwasanaethau Llieiniau a Rheolwyr Gwasanaethau Llieiniau.

Ai gweithio fel Cynorthwyydd Llieiniau yw’r yrfa iawn imi?

Mae’n rhaid i staff gwasanaethau llieiniau fod:

  • â’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau’n ofalus
  • yn iach iawn ac â dealltwriaeth o ddiogelwch
  • yn iach yn gorfforol er mwyn gallu codi llwythi a phacio a symud trolïau
  • â’r gallu i ddefnyddio’i fenter ei hun
  • yn barod i gymryd cyfrifoldeb dros ei waith ei hun
  • â’r gallu i weithio mewn tîm

Hefyd, bydd angen

  • sgiliau trefnu
  • sgiliau gwaith tîm

Beth mae staff Gwasanaethau Llieiniau yn ei wneud?

Mae nifer o wahanol dasgau y mae rhaid eu gwneud yn yr adran lieiniau, a gall y gwaith amrywio gan ddibynnu ar natur y swydd a lle rydych chi’n gweithio.

Fel cynorthwyydd llieiniau, mae’n bosibl y byddwch yn:

  • cludo eitemau o ddillad neu lieiniau i wardiau neu i fannau eraill lle mae cleifion
  • didoli llieiniau yn barod i’w golchi neu eu glanhau
  • pacio llieiniau i’w storio neu i’w cludo
  • cadw cofnodion o lefelau stoc

Mae rhai o staff gwasanaethau llieiniau hefyd yn defnyddio peiriant gwnïo neu beiriant marcio i wneud y canlynol:

  • trwsio ffurfwisgoedd
  • ychwanegu logos at wisgoedd
  • ychwanegu labeli at lieiniau / ffurfwisgoedd
  • archebu ffurfwisgoedd a chadw cofnodion o faint sydd wedi eu rhoi i staff

Yn yr ysbytai hynny lle mae golchdy ar y safle, mae staff gwasanaethau llieiniau yn:

  • derbyn hen lieiniau o adrannau ysbytai
  • didoli eitemau yn ôl sut y byddant yn cael eu glanhau neu eu golchi
  • defnyddio cyfarparu golchi a sychu diwydiannol
  • sychu a gorffen gan ddefnyddio cabinetau stêm, gweisg stêm neu wactod neu â llaw
  • plygu a phacio llieiniau
  • rhoi ffurfwisgoedd i staff

Fel goruchwyliwr gwasanaethau llieiniau neu arweinydd tîm, byddwch yn goruchwyliwr gwaith tîm o oruchwylwyr gwasanaethau llieiniau.

Fel rheolwr gwasanaethau llieiniau, byddwch yn sicrhau bod y gwasanaethau golch yn bodloni gofynion ansawdd. Bydd disgwyl ichi wneud tasgau rheoli eraill hefyd, megis:

  • recriwtio a hyfforddi staff
  • trefnu amserlenni’r staff
  • rheoli absenoldebau a disgyblaeth
  • rheoli cyllidebau

Ble mae staff Gwasanaethau Llieiniau yn gweithio?

Bydd rhai cynorthwywyr gwasanaethau llieiniau yn gweithio mewn safle lieiniau bwrpasol, bydd rhai gweld cleifion a bydd eraill yn gweithio mewn golchdai ar wahân ac ni fyddant yn gweld cleifion yn aml, os o gwbl.

Faint mae cynorthwywyr gwasanaethau llieiniau yn ei ennill?

Yn y GIG, mae cynorthwyydd gwasanaethau llieiniau yn cael ei dalu ar Fand 2. Ewch i’n tudalen am Dâl a Buddion am ragor o wybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i gynorthwywyr gwasanaethau llieiniau gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Pan fyddwch yn dechrau ar eich gwaith fel cynorthwyydd gwasanaethau llieiniau, cewch yr hyfforddiant sydd ei angen arnoch. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad i’r adran ac i’w systemau a’i chyfarpar, ynghyd â hyfforddiant iechyd a diogelwch a thrafod â llaw.

Bydd cyflogwyr yn disgwyl i weithwyr ennill cymwysterau os ydynt am fwrw ymlaen. Gyda chymwysterau a phrofiad, gallai cynorthwyydd gwasanaethau llieiniau ddod yn arweinydd tîm a goruchwylio tîm o gynorthwywyr. Gyda phrofiad helaeth ac hyfforddiant pellach, gall ddod yn rheolwr, â chyfrifoldeb dros adran neu ardal.

Efallai y cewch y cyfle i ennill cymwysterau mewn pynciau fel gwasanaethau golch er enghraifft.

Sut alla i ddod yn gynorthwyydd gwasanaethau golch?

Does dim gofynion penodol ar gyfer bod yn gynorthwywyr gwasanaethau llieiniau. Mae cyflogwyr yn disgwyl sgiliau rhifedd a llythrennedd da. Mae’n bosibl y byddant yn gofyn am TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Mae hefyd yn bosibl y bydd cyflogwyr yn gofyn am gymwysterau perthnasol fel NVQ mewn gwasanaethau gwesty neu ofal iechyd.

Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd cyflogwyr yn gofyn am brofiad o waith llieiniau neu olch neu o ofal iechyd. Gall hyn fod yn waith cyflogedig neu wirfoddol. Bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am sgiliau fel y gallu i ddefnyddio peiriant gwnïo hefyd.

Sut mae ennill profiad?

I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd I wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch I’n hadran Gwaith.

Sut y galla i ymgeisio am swydd?

Mae holl swyddi gwag GIG Cymru wedi’u hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: