Neidio i'r prif gynnwy

Staff Gwasanaethau Domestig

Beth yw Gweithiwr Domestig?

Mae staff gwasanaethau domestig yn gweithio mewn meysydd clinigol ac anghlinigol ledled y GIG.  Maent yn gwneud y gwaith pwysig iawn o sicrhau bod pob ardal yn lân ac yn ddiogel.

Mae gweithwyr domestig yn atal y risg o heintiau ac yn sicrhau nad ydynt yn lledu, yn enwedig yn y mannau hynny lle bydd aelodau o staff yn gofalu am gleifion. Mae glendid yn hynod o bwysig a chymerir camau bob dydd i gadw popeth yn lân. Mae llawer o gynorthwywyr gwasanaethau domestig yn dod wyneb yn wyneb â chleifion, felly bydd angen sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid sylfaenol arnynt. Gall hyn helpu i sicrhau bod profiad y claf yn fwy dymunol.

Ai gweithio fel cynorthwyydd domestig yw’r yrfa iawn imi?

Mae’n rhaid i Gynorthwyydd Gwasanaethau Domestig:

  • fod yn iach yn gorfforol
  • dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau
  • talu sylw i fanylion
  • gweithio’n rhan o dîm
  • cymryd cyfrifoldeb dros ei waith ei hun
  • gallu gweithio heb oruchwyliaeth
  • rheoli amser yn effeithiol

Beth mae gweithwyr domestig yn ei wneud?

Mae gweithwyr domestig (neu gynorthwywyr gwasanaethau domestig) yn gwneud tasgau glanhau y bydd angen eu gwneud bob dydd neu bob wythnos. Gall y tasgau hyn gynnwys:

  • dwstio arwynebau, dodrefn a chyfarpar
  • glanhau lloriau caled â mopiau neu â pheiriannau glanhau lloriau trydan
  • defnyddio sugnwr llwch neu beiriannau glanhau carpedi
  • glanhau toiledau ac ystafelloedd ymolchi
  • glanhau â stêm
  • gwagio biniau
  • cwblhau gwaith glanhau dwfn bob mis neu bob blwyddyn.

Mae’n bosibl y bydd cyflogwyr yn gofyn i staff ddilyn cyrsiau mewn pynciau fel delio â gwastraff peryglus, rheoli heintiau a thasgau glanhau arbennig.

Fel  goruchwyliwr gwasanaethau domestig , byddwch yn goruchwylio tîm o gynorthwywyr domestig ac yn dyrannu gwaith i sicrhau y caiff ei gwblhau yn y lle iawn ac mewn pryd. Byddwch hefyd yn sicrhau bod staff ar gael i gwblhau tasgau glanhau rheolaidd ar y cyd â sicrhau eu bod ar gael mewn sefyllfaoedd brys annisgwyl.

Fel rheolwr gwasanaethau domestig, byddwch yn gyfrifol am gynllunio a threfnu gwaith glanhau’r adran.

Bydd tasgau rheoli eraill yn cynnwys:

  • recriwtio a hyfforddi staff
  • trefnu amserlenni’r staff
  • sicrhau bod y gwaith glanhau yn bodloni’r safonau ansawdd
  • rheoli absenoldebau a disgyblaeth
  • rheoli cyllidebau

Ble mae gweithwyr domestig yn gweithio?

Mae staff domestig yn gweithio mewn nifer o leoliadau gwahanol yn y GIG, mewn cyd-destunau clinigol ac anghlinigol.  Mae’n debygol y byddant yn gweld cleifion, gan ddibynnu ar ble maent yn gweithio. Gallai goruchwylwyr ac arweinwyr tîm ddod wyneb yn wyneb â chleifion o bryd i’w gilydd. Mae’n bosibl na fydd rheolwyr yn gweld cleifion yn aml, os o gwbl.

Faint mae gweithwyr domestig yn ei ennill?

Yn y GIG, mae cynorthwyydd domestig yn cael ei dalu ar Fand 2.  Ewch i’n tudalen am Dâl a Buddion am ragor o wybodaeth.

Sut alla i ddod yn Gynorthwyydd, Goruchwyliwr, neu Reolwr Domestig?

Does dim gofynion penodol ar gyfer bod yn gynorthwywyr gwasanaethau domestig. Mae cyflogwyr yn disgwyl sgiliau rhifedd a llythrennedd da ac mae’n bosibl y byddant yn gofyn am TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Mae’n bosibl y bydd cyflogwyr yn gofyn am gymwysterau perthnasol hefyd fel NVQ mewn gwasanaethau gwesty neu mewn gofal iechyd, a phrofiad gwaith mewn gwesty neu mewn gofal iechyd. Gallai hyn fod yn waith cyflogedig neu wirfoddol.

Unwaith ichi gael gwaith fel gweithiwr domestig, cewch eich annog i fynychu cyrsiau mewn pynciau sy’n berthnasol i’r rôl. Bydd cyflogwyr yn disgwyl i gynorthwywyr domestig ennill cymwysterau os ydynt am fwrw ymlaen. Gyda chymwysterau a phrofiad, gallai cynorthwyydd gwasanaethau domestig ddod yn arweinydd tîm a goruchwylio tîm o gynorthwywyr. Gyda phrofiad helaeth, gall ddod yn rheolwr, â chyfrifoldeb dros adran neu ardal.

Bydd goruchwylwyr gwasanaethau domestig wedi gweithio fel glanhawyr neu fel cynorthwywyr domestig o’r blaen, yn y GIG neu mewn sefydliad arall. Mae cyflogwyr yn gofyn am gymwysterau mewn glanhau a/neu mewn arweinyddiaeth tîm fel arfer.

Mae’n bosibl y bydd gan reolwyr gwasanaethau domestig gymwysterau a/neu brofiad eisoes pan fyddant yn dechrau gweithio i’r GIG. Gall y cymhwyster fod yn radd neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) ym maes rheoli cyfleusterau neu wasanaethau gwesty er enghraifft. Mae’n bosibl y bydd ganddynt brofiad o weithio mewn sefydliadau eraill ar wahân i’r GIG.

Caiff pob swydd wag ei hysbysebu ar NHS Jobs.

Dolenni defnyddiol: