Neidio i'r prif gynnwy

Therapydd Orthodonteg

Patient undertaking a dentist checkup

Mae therapyddion orthodonteg yn ychwanegiad gymharol newydd i'r tîm orthodonteg.

Eu rôl yw gweithio ochr yn ochr ag orthodeintydd neu ddeintydd arbenigol i gyflawni triniaethau orthodonteg arferol. Erbyn hyn, mae’n weddol gyffredin i therapyddion orthodonteg gynnal triniaeth orthodonteg y GIG yn arbennig o dan oruchwyliaeth deintydd neu arbenigwr. Rhaid i therapyddion orthodonteg dan hyfforddiant gael 45 wythnos o hyfforddiant llawn amser - neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser - cyn y gallant fod yn gymwys fel therapyddion orthodonteg llawn. Mae therapi orthodonteg yn ddewis poblogaidd o ddilyniant gyrfa ymhlith nyrsys deintyddol, ond mae hylenwyr deintyddol, therapyddion a thechnegwyr hefyd yn gymwys i wneud cais am hyfforddiant.

Dolenni defnyddiol