Neidio i'r prif gynnwy

Technegydd deintyddol

Dental implant

Beth yw Technoleg Ddeintyddol?

Mae’n wyddor sy’n astudio sut y gall deunyddiau biogydnaws gael eu defnyddio, eu haddasu a’u cynhyrchu i greu dyfeisiau ar gyfer cleifion sydd wedi colli meinwe. Gall hyn gynnwys dannedd er enghraifft neu ddyfeisiau sy’n addasu anatomi.

Ai gweithio ym maes Technoleg Ddeintyddol yw’r yrfa iawn imi?

Os ydych chi’n mwynhau creu pethau â’ch dwylo ac yn fedrus wrth wneud, yn mwynhau gwyddor deunyddiau ac â llygad barcud am fanylion, yna gall gyrfa yn y maes hwn fod at eich dant.

Beth mae Technegwyr Deintyddol yn ei wneud?

Mae’r proffesiwn hwn yn rhan o’r tîm deintyddol ac mae’r dyfeisiau y maent yn eu creu i glinigwyr deintyddol yn cynnwys:

  • Dannedd gosod

  • Dyfeisiau orthodontig

  • Corunau

  • Mewnosodiadau

  • Pontydd

  • Dyfeisiau llawfeddygol arbenigol

  • Prosthesis ar gyfer Adran y Genau a’r Wyneb

Mae Technolegwyr Deintyddol yn derbyn argraffiadau neu ddata ac yn creu dyfeisiau ar gyfer y clinigydd. Mae’n rhaid i’r eitemau hyn, fel corunau neu ddannedd gosod, weithio’n dda ar y cyd ag edrych yn ddymunol.

Ble mae Technolegwyr Deintyddol yn gweithio?

Maen nhw’n gweithio yn y sector masnachol mewn labordai deintyddol preifat ac yn y GIG mewn ysbytai athrofaol arbenigol neu ysbytai rhanbarth.

Faint mae Technolegwyr Deintyddol yn ei ennill?

Y cyflog cychwynnol i Dechnolegwyr Deintyddol yn y GIG yw Band 5; ewch i’n hadran am Dâl a Buddion am ragor o wybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Dechnolegwyr Deintyddol gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Bydd hyn yn dibynnu ar eich profiad a’ch cymwysterau, fel gradd Meistr (MSc). Dewisodd rhai Technegwyr Deintyddol ymgymryd â hyfforddiant pellach a dod yn Dechnegwyr Deintyddol Clinigol.

Sut ydw i’n mynd yn Dechnolegydd Deintyddol?

Oes angen gradd arna i?

Oes, bydd rhaid ichi gwblhau gradd BSc (anrh) lawn amser mewn Technoleg Ddeintyddol a chofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Ble galla i hyfforddi yng Nghymru?

Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Oes cyllid ar gael?

Am ragor o wybodaeth am gyllid i fyfyrwyr a ffioedd dysgu, ewch i wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Oes cyfleoedd ôl-raddedig?

Oes. Bydd angen MSc mewn Gwyddor Technoleg Ddeintyddol arnoch er mwyn arbenigo.

Oes angen profiad arna i er mwyn ymgeisio ar gyfer y cwrs?

Nac oes, ond gall fod yn fantais.

Sut mae ennill profiad?

Mae nifer o labordai deintyddol yn y GIG a’r tu allan iddo a fydd o bosibl yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith.

Sut y galla i ymgeisio am swydd?

Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: