Neidio i'r prif gynnwy

Technegwr Deintyddol Clinigol

Gweithwyr proffesiynol yw Technegwyr Deintyddol Clinigol sy’n darparu dannedd gosod cyfan yn uniongyrchol i’r cleifion a dyfeisiau deintyddol eraill megis dannedd gosod rhannol ar gyfarwyddyd y deintydd.

Mae rôl Technegwr Deintyddol Clinigol yn ffitio rhwng technegydd deintyddol a deintydd. Fel technegydd deintyddol, maent yn gallu creu dannedd gosod yn y labordy ond, yn wahanol i dechnegydd deintyddol, maent yn cael cyswllt uniongyrchol gyda’r cleifion. Fodd bynnag, nid ydynt yn gallu rhoi presgripsiwn i gleifion sydd â dannedd ac maent felly yn gweithio i bresgripsiynau gan ddeintyddion.Mae’r Technegwr Deintyddol Clinigol yn archwilio, yn asesu, yn darparu triniaeth, yn rhoi cyngor a dylunio, yn cynhyrchu, yn addasu ac yn trwsio offer deintyddol wedi’i gwneud yn arbennig. Wrth weithio fel rhan o dîm deintyddol, gallent gyfeirio cleifion at ddeintydd os oes angen cynllun triniaeth arnynt neu os oes pryderon iechyd y geg. Mae’n rhaid i gleifion sydd â dannedd naturiol neu fewnblaniadau weld deintydd cyn i’r Technegydd Deintyddol Clinigol ddechrau triniaeth. Mae Technegwyr Deintyddol Clinigol yn dechnegwyr deintyddol cymwys cyn iddynt ymgymryd yr hyfforddiant penodol hwn.

Dolenni defnyddiol