Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs ddeintyddol

Dentist with a kid

Beth yw nyrs deintyddol?

Mae nyrsys deintyddol yn cefnogi gweithwyr proffesiynol deintyddol ym mhob agwedd ar ofal cleifion.

Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb unigol o baratoi a threfnu llawdriniaeth ddeintyddol, paratoi teclynnau, offer a chymysgu deunyddiau ar gyfer gweithdrefnau clinigol, a hefyd sicrhau bod y cleifion yn gyfforddus drwy gydol eu hymweliadau.

Ai nyrs deintyddol yw’r yrfa gywir i mi?

Er mwyn bod yn nyrs ddeintyddol bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog, natur ofalgar, y gallu i weithio gydag eraill a bod yn hynod o drefnus. Mae angen i nyrsys deintyddol fod yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt, yn ddibynadwy, amyneddgar, llonydd eu natur ac yn hyblyg i ymateb i unrhyw sefyllfa annisgwyl a all godi.

Beth mae nyrsys deintyddol yn gwneud?

Mae nyrs deintyddol yn cymryd nodiadau o gyfarwyddiadau llafar y deintydd ar gyfer cofnodion personol, cynorthwyo’r gweithiwr proffesiynol deintyddol yn ystod ac ar ôl i’r claf gael eu trin, yn glanhau’r feddygfa, yn sterileiddio’r teclynnau deintyddol ac yn paratoi ar gyfer y claf nesaf. Mae nyrsys deintyddol yn darparu cefnogaeth wrth law i weithwyr proffesiynol deintyddol ar draws ystod lawn o driniaeth ddeintyddol. Maent yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cleifion ac maent yn gyfrifol am reoli haint ac iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Pa gyfleoedd i ddatblygu gyrfa sydd ar gael i nyrsys deintyddol?

Ar ôl cymhwyso a chofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, gall nyrsys deintyddol benderfynu cwblhau cymwysterau pellach er mwyn cael rhagor o brofiad yn eu cwmpas ymarfer. Gellir datblygu’r dyletswyddau estynedig hyn trwy gymwysterau ôl-gofrestru'r Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Nyrsys Deintyddol (NEBDN) ar gyrsiau estynedig lle mae nyrsys deintyddol yn cynhyrchu tystiolaeth o gymhwysedd mewn tasgau penodol a ymgymerwyd o dan oruchwyliaeth deintydd cofrestredig neu Weithiwr Proffesiynol Gofal Deintyddol.

Sut ydw i’n dod yn nyrs deintyddol?

Mae nifer o lwybrau i ennill cymhwyster nyrsio deintyddol:

  1. Dod o hyd i waith (neu leoliad gwaith) a darparwr cwrs - Bydd rhan fwyaf o Nyrsys Deintyddol cymwys wedi dilyn y llwybr hwn. Bydd angen i chi ddod o hyd i waith (neu leoliad) fel nyrs ddeintyddol dan hyfforddiant mewn ymarfer deintyddol. Ar ôl cael gwaith, gallwch ddechrau chwilio am hyfforddiant gyda darparwr cwrs. Fel arfer gall eich cyflogwr argymell darparwr cwrs gan eu bod yn debygol o fod wedi defnyddio un o'r blaen. Peidiwch â phoeni os nad yw’r cwrs yn dechrau am ychydig fisoedd, gallwch gadw eich gwaith fel rhywun dan hyfforddiant am hyd at 2 flynedd.
  2. Anfon cais am gwrs llawn amser mewn ysbyty dysgu deintyddol - Mae ysbytai dysgu deintyddol yn darparu’r hyfforddiant a'r profiad clinigol mewn un lle, ond mae llefydd amser-llawn yn brin. Gwnewch yn siŵr fod yr ysbyty dysgu rydych wedi ei ddewis yn darparu cwrs trwyddedig a chysylltwch â nhw ynglŷn â’u proses ymgeisio.
  3. Dod o hyd i ddarparwr cwrs sy’n trefnu gosodiadau ar eich cyfer - Mae’n well gan y rhan fwyaf o ddarparwyr cwrs eich bod mewn swydd cyn i chi gofrestru gyda nhw ar gyfer hyfforddiant. Mae’n brin iawn dod o hyd i ddarparwr cwrs sy’n gallu trefnu lleoliad gwaith ar eich cyfer.

Gofynion Mynediad

Mae pob cwrs hyfforddiant nyrs ddeintyddol wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Bydd gofynion y cwrs yn amrywio i bob darparwr, ond mae lleiafrif o 2 TGAU (gradd C neu uwch) yn Saesneg iaith a mathemateg yn ddymunol. Mae defnydd da o’r iaith Saesneg yn ofynnol.

Mae’n debygol y bydd cyrsiau lefel gradd amser-llawn yn gofyn am Lefel A neu gymwysterau cyfwerth â lefel 3. Ewch i chwilio am gwrs er mwyn dod o hyd i gyrsiau sydd ar gael a chofiwch ofyn i ddarparwyr cwrs unigol am eu gofynion mynediad penodol.

Mae prentisiaeth lefel 3 mewn nyrsio deintyddol yn ffordd ychwanegol o ennill y cymwysterau gofynnol mewn nyrsio deintyddol. Am fanylion am le i chwilio am swydd a phrentisiaeth, ewch i’r adran ‘Marchnad swydd a swyddi gwag’ isod.

Hyfforddiant

Mae hyd y cyrsiau yn amrywio.

Fel rhan o’ch hyfforddiant bydd rhaid i chi gwblhau portffolio o dystiolaeth o’ch cymhwysedd i wneud ystod o dasgau clinigol. Bydd angen cefnogaeth eich cyflogwr er mwyn cwblhau'r portffolio yn effeithiol. Bydd y cwrs yn cynnwys pynciau megis Clefyd Deintyddol, Anatomeg Ranbarthol, Deunyddiau Deintyddol, Radiograffeg yn ogystal â’r sawl sy’n gysylltiedig â phob gweithdrefn rydych yn debygol o ddod ar eu traws yn y gweithle.

Gall hyfforddiant gael ei ddarparu mewn amryw o ffyrdd e.e. mewn dosbarth, ar-lein neu gymysgedd o’r ddau, ond bydd hyn yn dibynnu ar y darparwr cwrs rydych wedi ei ddewis.

Ar ôl i chi gwblhau eich portffolio cymhwysedd i’r safon ofynnol a’ch bod wedi pasio’r arholiad perthnasol, byddwch yn gymwys i gofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Dolenni defnyddiol: