Neidio i'r prif gynnwy

Trinwyr Galwadau Gwasanaethau Cludo Difrys

Beth yw Triniwr Galwadau Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng?

Mae Trinwyr Galwadau i’r Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn derbyn galwadau gan gleifion na allant yrru, neu sy’n rhy sâl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Ai Triniwr Galwadau i’r Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yw’r yrfa iawn imi?

Mae’r Trinwyr Galwadau hyn yn gofyn cyfres o gwestiynau er mwyn penderfynu a gaiff y claf ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth di-argyfwng. Mae rhaid iddynt gofnodi manylion cleifion yn ofalus ac yn gywir, felly mae rhoi sylw i fanylion yn bwysig. Mae’n bosibl y bydd y Trinwyr Galwadau hyn yn siarad â’r claf yn uniongyrchol, neu’n gweithio gyda meddygon teulu, staff gofal iechyd eraill, criwiau gwasanaethau trafnidiaeth di-argyfwng eraill, gyrwyr car gwirfoddol, adrannau mewn ysbytai a staff iechyd proffesiynol eraill. Felly bydd angen sgiliau rhagorol arnynt.

Beth mae Trinwyr Galwadau i’r Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn ei wneud?

Mae’r Trinwyr Galwadau hyn yn gweithio yn y Gwasanaeth Cludo Cleifion, sef rhan ddi-argyfwng y Gwasanaeth Ambiwlans. Maent yn trefnu trafnidiaeth i gludo cleifion i’r ysbyty neu i apwyntiadau mewn clinig, ac i fynd â nhw adref ar ôl bod yn yr ysbyty.

Ble mae Trinwyr Galwadau i’r Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn gweithio?

Mae’r Trinwyr Galwadau hyn yn gweithio mewn ystafell reoli ambiwlansys. Maent yn gweithio mewn sifftiau, gan gynnwys gwyliau banc, felly mae’n rhaid iddynt fod yn hyblyg.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Drinwyr Galwadau i’r Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Mae’r trinwyr galwadau hyn yn mynd ymlaen yn aml i rolau gweithredol yn y gwasanaeth ambiwlans, gan gynnwys Cynorthwywyr Gofal Ambiwlans.

Faint mae Trinwyr Galwadau i’r Gwasanaethau Di-argyfwng yn ei ennill?

Band cyflog 2 - Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.

Sut y galla i ddod yn Driniwr Galwadau i’r Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng?

Caiff pob swydd yn Ymddiriedaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei hysbysebu ar wefan NHS Jobs, felly gallwch chi wneud cais pan gaiff swydd ei hysbysebu. Byddai angen addysg o safon resymol arnoch ar lefel TGAU (neu gymwysterau cyfwerth neu brofiad)), ynghyd â sgiliau TG da a phrofiad gweinyddol.

Dolen ddefnyddiol: