Neidio i'r prif gynnwy

Parafeddyg

Beth yw parafeddyg?

Ymarferwyr annibynnol sydd wedi derbyn hyfforddiant clinigol yw parafeddygon, sydd â’r wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd clinigol ar gyfer asesu a thrin cleifion ynghyd â rhoi diagnosis. Maent hefyd yn gallu rhoi tabledi lladd poen a meddyginiaethau eraill.

Fyddai gyrfa fel parafeddyg yn addas imi?

Mae parafeddygon yn mynd i gartrefi neu ardaloedd lle mae cleifion ar eu mwyaf bregus, gan roi cymorth cynnal bywyd i’r rhai sydd angen sylw meddygol brys.

Mae’n rhaid i barafeddygon allu wneud y canlynol:

  • Deall ac asesu sefyllfaoedd yn gyflym;
  • Bod yn bwyllog mewn sefyllfa sy’n llawn straen, yn enwedig wrth ddelio ag emosiynau pobl
  • Gwneud penderfyniadau o dan bwysau
  • Bod yn hyderus ac yn gyfathrebwyr a gwrandawyr da
  • Tawelu meddwl a bod yn dda gyda phobl
  • Meddu ar sgiliau gyrru rhagorol
  • Bod yn barod i fynd i mewn i sefyllfaoedd sy’n ddieithr neu’n anodd eu rhagweld

Beth mae parafeddygon yn ei wneud?

Mae parafeddygon yn ymateb i unrhyw sefyllfa feddygol frys, y gall rhai ohonynt beri gofid a chynnwys pobl sydd wedi niweidio’n wael neu sydd wedi dioddef trawma difrifol. Maent yn rhoi gofal brys yn y fan a’r lle, a gall hyn gynnwys rheoli gwaedu, trin clwyfau ac esgyrn sydd wedi torri, neu drin anafiadau i’r pen neu’r asgwrn cefn. Mae parafeddygon yn defnyddio offer cynnal bywyd a meddygol (megis diffibriliwr) ac yn edrych am arwyddion sy’n dangos bod rhywun yn fyw (sef arwyddion o anadlu, tymheredd, pwysedd gwaed, siwgr yn y gwaed ayyb). Hefyd, mae’n rhaid iddynt gofnodi gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys hanes meddygol claf, ac mae rhaid iddynt gadw cofnodion cleifion yn gywir.

Gall parafeddygon gyfeirio cleifion at ofal sy’n fwy priodol os nad oes angen i’r claf fynd i’r ysbyty. Gall hyn gynnwys cysylltu â meddyg teulu’r claf neu’r gwasanaethau cymdeithasol.

Ble mae parafeddygon yn gweithio?

Mae parafeddygon yn ddarparwyr gofal iechyd allweddol mewn cyd-destunau gofal sylfaenol, acíwt a brys. Maent naill ai’n gweithio ar eu pen eu hunain mewn car ymateb brys neu mewn ambiwlans â Thechnegydd Meddygol Brys. Ar y cyd â gweithio gyda Thechnegwyr Meddygol Brys maent hefyd yn gweithio gydag aelodau eraill o’r Gwasanaeth Ambiwlans, megis staff yr ystafell reoli.  Maent hefyd yn gweithio gyda meddygon, nyrsys a’r gwasanaethau brys eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Tân a’r Heddlu.

Faint mae parafeddygon yn ei ennill?

Yn GIG Cymru, bydd parafeddygon yn dechrau ar Fand 5; ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth. Gall taliadau oriau anghymdeithasol hyd at 25% wella ar hyn, sy’n cydnabod natur 24 awr y gwasanaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Barafeddygon gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Ar ôl ichi ymgymhwyso ac ennill y profiad clinigol priodol, gall parafeddygon ddal y swyddi canlynol:

  • Ymarferwyr Arbenigol
  • Ymarferwyr Parafeddygol Uwch
  • Ymgynghorwyr Parafeddygol
  • Rheolwr
  • Darlithydd prifysgol

Sut y galla i ddod yn barafeddyg?

Oes angen gradd arna i? Oes, os hoffech weithio yn y GIG, bydd angen i chi gwblhau cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Ble galla i hyfforddi yng Nghymru? Prifysgol Abertawe.
Oes cyllid ar gael? Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a chymhwysedd ar ei gyfer, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
Oes angen profiad arna i er mwyn ymgeisio ar gyfer y cwrs? Bydd meddu ar unrhyw brofiad mewn rôl ofal, yn broffesiynol ac yn bersonol, yn fanteisiol.
Sut mae ennill profiad?

I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd I wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch I’n hadran Gwaith.

Gallech chi ddilyn cwrs cymorth cyntaf a gwirfoddoli:

Sut y galla i ymgeisio am swydd? Hysbysebir pob swydd yn GIG Cymru ar wefan NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: